<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:43, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Yn wahanol i David Rowlands, ni allaf addo peidio â chrybwyll Cylchffordd Cymru. Ddydd Gwener, mewn datganiad ysgrifenedig i’r Cynulliad hwn mewn perthynas â chyhoeddi’r diwydrwydd dyladwy a gynhaliwyd ar y prosiect hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch chi,

‘Mewn cysylltiad â’r adroddiad ar y prawf Person Cymwys a Phriodol, nid ydym wedi gallu ei gyhoeddi fel fersiwn lawn na chryno gan nad yw Michael Carrick wedi rhoi ei ganiatâd i’w gyhoeddi.’

A allwch ddweud wrthym pryd y cafodd copi o’r adroddiad hwn, naill ai fersiwn lawn neu grynodeb, ei anfon gyntaf i Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd a’i brif weithredwyr, gyda chais am eu caniatâd i’w gyhoeddi?