<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:45, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr adroddiad hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r cwmni yn y llythyr y cyfeiriodd ato yn anghytuno â’r hyn y mae newydd ei ddweud, ac rwy’n siŵr y byddant yn ymateb maes o law. Maent yn mynnu na chawsant gopi wedi’i olygu o’r adroddiad tan 5.16 p.m. ar y nos Wener wedi i’r datganiad gael ei wneud i’r Cynulliad.

Gan ein bod yn trafod cyhoeddi gwybodaeth mewn perthynas â Chylchffordd Cymru, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â gwybodaeth gyfrinachol a gedwir gan eich adran a ddatgelwyd i’r ‘Western Mail’? A all roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad bellach ynglŷn â’r ymchwiliad a gynhaliwyd i’r datgeliad answyddogol?