<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:49, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn innau’n dweud ein bod wedi clywed y Prif Weinidog ddoe yn rhoi ei gefnogaeth i dreth dwristiaeth yma yng Nghymru. Mae’n ddigon posibl fod cyflwyno treth dwristiaeth yn cael yr effaith a ddymunir mewn gwledydd â threthi gwerthiant isel, ond yng Nghymru lle y mae’r gyfradd lawn o dreth ar werth yn cael ei chodi ar lety, ar brydau bwyd ac atyniadau, bydd treth dwristiaeth ychwanegol yn golygu bod ymwelwyr, i bob pwrpas, yn talu ddwywaith. Slofacia yw’r unig wlad arall yn Ewrop sy’n codi treth dwristiaeth heb fod ganddi gyfraddau TAW is ar gyfer busnesau llety. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych am inni ddilyn arweiniad Slofacia? A hefyd, mae eich cyd-Aelod, Mark Drakeford, wedi dweud ei fod yn awyddus i annog newid ymddygiad drwy’r system drethi. Sut y credwch y byddai treth dwristiaeth yn newid ymddygiad?