<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:52, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae wedi cynnig dadansoddiad cynhwysfawr o effaith bosibl yr ardoll dwristiaeth. Nid yw wedi darparu dadansoddiad cynhwysfawr o’r manteision hyd yn hyn, fodd bynnag. Fel rhan o’r broses o ymgynghori ac ystyried y cynnig penodol hwn, byddwn yn cynnal ymarfer ymgynghori yn awr a fydd yn cynnwys holl elfennau ymarfer casglu tystiolaeth. Mae angen inni nodi manteision posibl, ac wrth gwrs, canlyniadau posibl ardoll dwristiaeth, ac rwy’n ymrwymo i ymgysylltu’n llawn â’r sector er mwyn dadansoddi manteision posibl a chostau posibl y fenter benodol honno. Mae hon yn un o bedair sy’n cael eu hystyried. Bydd pob un o’r cynigion hynny’n cymryd amser i’w hasesu, ond rwy’n ymrwymo i weithio gyda’r sector.