<p>Gyrru Economi Cymru Ymlaen</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 1:53, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae hynny’n newyddion ardderchog; mae pob un ohonom wedi bod yn edrych ymlaen at hynny gan fod mesurau cyni Llywodraeth y DU wedi golygu, ar lefel yr awdurdodau lleol, ein bod wedi gweld gostyngiad o 65 y cant yn yr arian mewn adrannau datblygu economaidd, a gostyngiad o 45 y cant mewn adrannau cynllunio. Oherwydd y gostyngiad enfawr hwnnw ar lefel yr awdurdodau lleol, tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa gyfathrebu sydd wedi bod rhyngddo a llywodraeth leol ar lunio’r cynlluniau hynny, yn ogystal â’i gyfathrebu â’r sector preifat, sy’n mynd i fod yn allweddol wrth symud y model newydd hwn yn ei flaen.