Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 11 Hydref 2017.
Ein gweledigaeth ar gyfer y metro yn ne-ddwyrain Cymru yw cymunedau mwy cysylltiedig ledled y rhanbarth. Mae’n rhaid cynllunio’r metro mewn modd sy’n diwallu anghenion cymunedau’r Cymoedd yn gyntaf oll, gan ddod â swyddi gwell yn nes at gartrefi pobl. Byddaf yn ymrwymo i edrych ar y mater penodol y mae’r Aelod yn ei grybwyll. Mae cynllun y metro a chaffael y fasnachfraint yn golygu y dylem allu caniatáu ar gyfer gwasanaethau estynedig, ac edrychaf ymlaen at allu cynnig gwasanaethau newydd a mwy dibynadwy i gymunedau’r Cymoedd wrth i ni gyflwyno nid yn unig y fasnachfraint, ond yn benodol, gwasanaeth metro estynedig. Hefyd, hoffwn gynnig unrhyw gefnogaeth y byddai’r Aelod ei heisiau mewn perthynas â dyfodol y ganolfan chwaraeon a grybwyllwyd. Yn fy etholaeth i, mae gennyf enghraifft dda iawn o fenter gymdeithasol a ymgymerodd â’r gwaith o reoli canolfan gymunedol a chanolfan hamdden a oedd mewn perygl o gau, a buaswn yn hapus i rannu gwybodaeth a manylion cyswllt â’i chanolfan hamdden hi.