Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 11 Hydref 2017.
Rwy’n fwy na pharod i ailgynnull y grŵp cludiant iechyd cyn gynted â phosibl, cyn gynted ag y gall yr aelodau gyfarfod. Credaf ei bod yn hollol hanfodol ein bod yn ymgynghori â chymaint o randdeiliaid â phosibl wrth i ni gynllunio’r fasnachfraint nesaf, a gwneud yn siŵr fod cymunedau ledled Cymru wedi eu cysylltu’n well. Felly, rwy’n ymrwymo i ailgynnull y grŵp hwnnw ar ran yr Aelod a chyda’r Aelod.