<p>Nodi 300 Mlwyddiant Geni William Williams Pantycelyn</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:04, 11 Hydref 2017

Mae William Williams Pantycelyn yn un o ffigyrau mwyaf blaenllaw Cymru. Nid oes yna ddim amheuaeth am hynny, nid yn unig oherwydd ei gyfraniad i’r diwygiad Methodistaidd a’r dros 900 o emynau a ysgrifennodd o, llawer ohonyn nhw ymysg y rhai mwyaf poblogaidd heddiw o hyd, ond mi wnaeth o gyfraniad enfawr tuag at ddatblygiad diwylliannol ac addysgol Cymru: moderneiddio’r iaith Gymraeg; un o’r cyntaf i ysgrifennu’n Gymraeg yn erbyn caethwasiaeth yn America; hefyd yn amlwg iawn yn mynnu y dylai merched gael yr un hawliau â dynion mewn priodas ac ati. Mi wnaeth Llywodraeth Cymru ymdrechion mawr ac ymgyrchoedd mawr, wrth gwrs, i goffáu canmlwyddiant geni Roald Dahl a Dylan Thomas, ac rydw i yn cymharu hynny, â phob parch, ac yn edrych arno fo mewn ffordd wahanol iawn i’r dathliad yma yn y Senedd, yn y Cynulliad, mewn partneriaeth â’r llyfrgell genedlaethol, gymaint ag yr ydw i’n croesawu’r digwyddiad hwnnw. Mae cynsail wedi cael ei osod drwy ddathliadau Roald Dahl a Dylan Thomas ar gyfer gwirioneddol ddathlu rhai o gewri ein cenedl ni. Mae 1,200 a mwy o bobl wedi arwyddo deiseb yn gofyn am fuddsoddiad go iawn. A ydy Llywodraeth Cymru yn cytuno bod Pantycelyn hefyd yn haeddu gwirioneddol fuddsoddiad yn ei goffâd o ystyried ei ddylanwad o ar ddiwylliant a bywyd Cymru?