1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru ar 11 Hydref 2017.
6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i nodi 300 mlwyddiant geni William Williams Pantycelyn eleni? (OAQ51142)[W]
Rwy’n falch dros ben fod y Llyfrgell Genedlaethol yn cynnal digwyddiad yma yn y Senedd ar 18 Hydref i ddathlu trichanmlwyddiant William Williams, ac y bydd y Prif Weinidog yn cymryd rhan. Mae’r rhan fwyaf o’n dathliadau diwylliannol yn cael eu datblygu mewn partneriaeth, ac rwy’n hapus i drafod cymorth posibl ar gyfer digwyddiadau eraill y gallai eraill fod eisiau eu cyflwyno.
Mae William Williams Pantycelyn yn un o ffigyrau mwyaf blaenllaw Cymru. Nid oes yna ddim amheuaeth am hynny, nid yn unig oherwydd ei gyfraniad i’r diwygiad Methodistaidd a’r dros 900 o emynau a ysgrifennodd o, llawer ohonyn nhw ymysg y rhai mwyaf poblogaidd heddiw o hyd, ond mi wnaeth o gyfraniad enfawr tuag at ddatblygiad diwylliannol ac addysgol Cymru: moderneiddio’r iaith Gymraeg; un o’r cyntaf i ysgrifennu’n Gymraeg yn erbyn caethwasiaeth yn America; hefyd yn amlwg iawn yn mynnu y dylai merched gael yr un hawliau â dynion mewn priodas ac ati. Mi wnaeth Llywodraeth Cymru ymdrechion mawr ac ymgyrchoedd mawr, wrth gwrs, i goffáu canmlwyddiant geni Roald Dahl a Dylan Thomas, ac rydw i yn cymharu hynny, â phob parch, ac yn edrych arno fo mewn ffordd wahanol iawn i’r dathliad yma yn y Senedd, yn y Cynulliad, mewn partneriaeth â’r llyfrgell genedlaethol, gymaint ag yr ydw i’n croesawu’r digwyddiad hwnnw. Mae cynsail wedi cael ei osod drwy ddathliadau Roald Dahl a Dylan Thomas ar gyfer gwirioneddol ddathlu rhai o gewri ein cenedl ni. Mae 1,200 a mwy o bobl wedi arwyddo deiseb yn gofyn am fuddsoddiad go iawn. A ydy Llywodraeth Cymru yn cytuno bod Pantycelyn hefyd yn haeddu gwirioneddol fuddsoddiad yn ei goffâd o ystyried ei ddylanwad o ar ddiwylliant a bywyd Cymru?
Ydw, a dyna pam fy mod yn ddigalon nad oes unrhyw sefydliad neu grŵp o unigolion, hyd yn hyn, wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru gyda syniadau neu gynigion ar ffyrdd i gofio’r trichanmlwyddiant. Nawr, dylwn ddweud, yn wahanol i’r hyn a ddywedodd yr Aelod, nad ni a drefnodd y dathliadau ar gyfer Roald Dahl a Dylan Thomas; cawsant eu trefnu a’u cynnal gan bartneriaid. Fe fuddsoddom ni ynddynt, fe weithredom ni fel galluogwyr. A gaf fi annog yr Aelod, os yw’n ymwybodol o unrhyw fath o ddathliad neu deyrnged addas ar gyfer y trichanmlwyddiant, i’w cyflwyno, os gwelwch yn dda—? Fel rwyf wedi’i ddweud sawl tro wrth yr Aelodau, mae croeso i chi gyflwyno’r cynlluniau hynny. Mae ein blynyddoedd thematig, ac eleni yw Blwyddyn y Chwedlau, wedi’u cynllunio i ddathlu pobl o Gymru, digwyddiadau yng Nghymru, a byddai’n hynod ddefnyddiol pe gallem gyflwyno syniadau mwy arloesol i ddathlu pobl a gorffennol Cymru.
Rwy’n falch iawn o glywed, Ysgrifennydd y Cabinet, ein bod yn curo ar ddrws agored o ran yr awydd i goffáu’r emynydd enwog iawn hwn o Gymru. A gaf fi awgrymu i chi y gallai cerflun yma ym Mae Caerdydd fod yn deyrnged addas i ddathlu’r arwr cenedlaethol hwn, ac ochr yn ochr ag ef, efallai, cerflun o Ann Griffiths, yr emynydd benywaidd enwog o Gymru, sydd hefyd yn gysylltiedig â hanes anghydffurfiaeth yma yng Nghymru? Credaf y byddai cerflun o’r ddeuawd anhygoel hon, sy’n ysbrydoliaeth ryfeddol hyd yn oed heddiw, yn deyrnged deilwng i’r ddau ohonynt. Ac wrth gwrs, gydag eleni’n drichanmlwyddiant, ni allaf feddwl am ffordd well o nodi’r achlysur arbennig hwn.
Wel, rwy’n cytuno’n llwyr â’r Aelod. Byddai’n wych cael cerflun o Ann Griffiths hefyd. Efallai fy mod yn anghywir, efallai y byddai’r Aelodau’n dymuno fy nghywiro, ond nid wyf yn ymwybodol o unrhyw gerflun o fenyw yng Nghymru, yn unman yn ein gwlad, ac mae hynny’n rhywbeth y dylem resynnu ato’n fawr. Buaswn yn annog yr Aelod i siarad gyda fy swyddogion—fe drefnaf hynny. Mae’n hollbwysig ein bod yn nodi partner cyflawni a allai gyflawni hyn, ond buaswn yn fwy na pharod i ystyried ariannu cynnig o’r fath drwy’r un ffynhonnell ariannu ag a gynorthwyodd i ddathlu Dylan Thomas a Roald Dahl.