<p>Cynaliadwyedd a Thrafnidiaeth</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:08, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cytuno y byddai metro de Cymru, yn wir, yn enghraifft dda o ddatblygu cynaliadwy. Yn anffodus, nid ydym wedi gallu dod o hyd i’r cyllid ar ei gyfer eto. Fe wyddoch am yr ohebiaeth â chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol ynglŷn â phwysigrwydd ystyried ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth bennu beth yn union yw datblygu cynaliadwy. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd ystyried pedair colofn llesiant a’r pum ffordd o weithio, a bod yn rhaid i bob penderfyniad wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Yng ngoleuni’r cynnig ar gyfer ffordd liniaru’r M4, a oedd wedi cael ei drafod ers blynyddoedd lawer, ymhell cyn Deddf cenedlaethau’r dyfodol, sut y mae Deddf newydd cenedlaethau’r dyfodol wedi newid eich ymagwedd at y cynnig hwn?