Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 11 Hydref 2017.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y dylem fuddsoddi mwy mewn rheilffyrdd yn ogystal â ffyrdd i hybu’r datblygiad economaidd hwnnw? Gan y bydd gorsafoedd newydd yn Llan-wern a Llaneirwg yn newid patrwm gwasanaethau’r brif reilffordd, a yw’n cytuno y gallai gorsaf newydd ym Magwyr ategu hyn? Gydag ymgyrchwyr yn cyfarfod â’r Adran Drafnidiaeth a Network Rail yfory, a wnaiff ystyried darparu arian cyfatebol i’r £80,000 y maent hwy a Chyngor Sir Fynwy eisoes wedi’i i godi er mwyn cynnal asesiad cam 3 y Prosiectau Llywodraethu Buddsoddiadau Rheilffordd a datgloi buddsoddiad posibl gan Network Rail?