<p>Apwyntiadau i’r Goruchaf Llys</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:21, 11 Hydref 2017

Diolch am yr ateb arferol. Rwy’n gobeithio, fel yr Aelod dros Bontypridd, y byddwch chi’n gallu estyn gyda fi groeso a llongyfarchiadau i fachan o Bontypridd, David Lloyd Jones, ar ei apwyntiad i’r Goruchaf Lys—a’i fod wedi tyngu llw yn Gymraeg yn y Goruchaf Lys hefyd. Rwy’n credu eich bod chi wedi bod yno i weld hynny yn digwydd.

Dau beth sydd yn deillio o’r ffaith fod David Lloyd Jones bellach yn aelod o’r Goruchaf Lys. Yn gyntaf oll, ydy hyn yn ateb i’r cwestiwn a ddylai fod aelod parhaol o Gymru ar y Goruchaf Lys? Ar hyn o bryd, nid yw hynny wedi’i sicrhau i ni mewn Deddf nac mewn confensiwn, ond, wrth gwrs, mae wedi’i sicrhau mewn person erbyn hyn. Beth ydych chi’n ei wneud fel Cwnsler Cyffredinol i symud ymlaen i sicrhau hyn fel hawl? Achos yn fy marn i, dylai fod hawl gan Gymru i gael aelod o’r Goruchaf Lys.

Ac yn ail, roeddwn yn sylwi bod David Lloyd Jones, fel rhan o’r broses o gael ei apwyntio, wedi galw yn ddiweddar yn Abertawe am sefydlu sefydliad cyfraith Cymru, sefydliad a fyddai’n hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r gyfraith. A ydych chi wedi cael trafodaethau—efallai bod rhain yn drafodaethau rydych yn gallu datgan i’r Cynulliad—a ydych chi wedi cael trafodaethau gyda David Lloyd Jones a phobl eraill ynglŷn a’r syniad yma?