Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 11 Hydref 2017.
A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cydnabod bod dyfarniad y Goruchaf Lys wedi mynd yn groes i’r safbwynt blaenorol, fel y’i cynigiwyd gan Lywodraeth Cymru, ac yn wir, y Prif Weinidog? Fe’i cofiaf yn dweud wrthym yn y Siambr ynglŷn â phwysigrwydd pleidleisio dros y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Cymru, gan y byddai hynny’n rhwymo Sewel mewn statud, ac fel yr Alban, byddem yn elwa o gael y sail statudol honno o ran confensiwn Sewel. Onid y gwirionedd yw bod y Goruchaf Lys wedi dangos bod y safbwynt cyfreithiol hwnnw’n gamsyniad llwyr, ac nad oes mwy o rym i’r confensiwn hwnnw yn awr ei fod wedi’i rwymo mewn statud nag a oedd iddo o’r blaen?