Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 11 Hydref 2017.
Rwyf wedi cyflwyno sylwadau i’r Goruchaf Lys ynglŷn â gwella amrywiaeth y farnwriaeth. Rwy’n croesawu penodiad diweddar yr Arglwyddes Hale yn llywydd y Goruchaf Lys, llywydd benywaidd cyntaf y Goruchaf Lys, a phenodiad yr Arglwyddes Black i’r Goruchaf Lys, ac fel y dywedais eisoes, rwy’n croesawu penodiad yr Arglwydd Lloyd-Jones yn farnwr Cymreig cyntaf y Goruchaf Lys.