<p>Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:35, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. A gaf i ofyn iddo a yw wedi gweld y papur a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru yr wythnos hon ar Fil ymadael yr UE, ‘Mesur Ymadael yr UE—Yr Ongl Gyfreithiol: Y goblygiadau cyfansoddiadol i Gymru’, a ysgrifennwyd gan Fflur Jones? Rwy’n hapus i e-bostio copi ato. Mae Fflur Jones yn nodi nifer o ddadleuon yn y papur, a hoffwn sôn am ddwy ohonynt. Dywed un fod

‘Mae’r Mesur fel y’i drafftiwyd yn cymryd agwedd ddeuaidd at y setliad datganoli, nad yw’n adlewyrchu "glud"... cyfraith yr UE ar y setliad hwnnw, na’r cymwyseddau a rennir sy’n bodoli rhwng Llywodraeth y DG a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.’

Mae’n mynd yn ei blaen i ddadlau hefyd fod

‘angen newid sylweddol i’r Mesur er mwyn sicrhau nad yw’n erydu’r setliad datganoli presennol yng Nghymru, sy’n adlewyrchu dymuniadau pobl Cymru fel y’i mynegwyd yn y ddau refferendwm’— sic—

‘ar ddatganoli.’

Credaf y byddech yn cydymdeimlo gyda’r dadleuon hynny, Cwnsler Cyffredinol, fel y byddai Llywodraeth Cymru. Felly, a allwch ddweud ychydig yn fwy na’ch ateb gwreiddiol ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â’r dadleuon cyfreithiol a chyfansoddiadol cryf hyn, a cheisio gwelliannau yn awr, gan fod y Bil yn mynd drwy bwyllgor y Tŷ cyfan yr wythnos nesaf, yn ôl yr hyn a ddeallaf?