Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 11 Hydref 2017.
Diolch i chi, Llywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Gadeirydd ac aelodau Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am eu hadroddiad, am eu gwaith craffu, ac am eu hargymhellion. Rwy’n falch o allu derbyn pob un o’r argymhellion, ac rwy’n credu y buasai’n anodd iawn anghytuno â llawer o’r hyn y mae’r Aelodau wedi’i ddweud heddiw.
Mewn ymateb i Jeremy Miles, rwy’n ofni bod fy mrwdfrydedd ynglŷn â’r pwnc arbennig hwn wedi achosi i mi gael fy ngheryddu’n ysgafn ddoe am gymryd mwy na’r amser penodedig yn ystod y datganiad ar docynnau bws rhatach, felly rwy’n addo y byddaf mor gryno â phosibl heddiw. A buaswn yn cytuno hefyd gyda Jeremy ac Aelodau eraill a siaradodd am yr angen i edrych ar y gwasanaethau bysiau fel rhan o ddarlun llawer mwy.
Mae tagfeydd yn effeithio ar yr economi, mae’n effeithio ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl Cymru, ac rwy’n cydnabod bod rhagolygon galw yn nodi y bydd defnydd o’r ffyrdd yn parhau i dyfu. Dyna pam fod mynd i’r afael â thagfeydd yn ffocws â blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a pham ei fod yn rhan annatod o strategaeth drafnidiaeth Cymru ac yn wir, y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, yn ogystal â’r strategaeth genedlaethol a lansiwyd yn ddiweddar, ‘Ffyniant i Bawb’. Mae’r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd yn 2015, yn nodi rhaglen bum mlynedd uchelgeisiol o ymyriadau trafnidiaeth a fydd yn bwrw ymlaen â’r mesurau rydym yn eu cymryd ledled Cymru i sicrhau ei bod yn cael ei chysylltu drwy rwydwaith trafnidiaeth dibynadwy, modern ac integredig. Mae camau i liniaru tagfeydd ar ffyrdd Cymru yn cynnwys datblygu ein cyfres o fodelau, fel y gallwn gyfarwyddo a rhagweld gofynion y dyfodol yn well a chynllunio ymhell o flaen llaw. Rydym hefyd wedi sicrhau bod pwerau ar gael i awdurdodau lleol i fabwysiadu gorfodaeth sifil yn erbyn ystod o dramgwyddau ar y ffyrdd, gan gynnwys troseddau parcio, troseddau lonydd bysiau a throseddau traffig symudol penodol. Ac rwy’n credu ei bod yn bwysig fod awdurdodau lleol yn defnyddio’r pwerau hyn i wella tagfeydd.
Fel y nododd Hefin David, rydym yn gweithio gyda phartneriaid lleol i nodi ardaloedd lle y ceir problemau ac i sicrhau gwelliannau seilwaith er mwyn hwyluso llif traffig. Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi £24 miliwn ar gyfer ardaloedd lle y ceir problemau, a fydd yn rhoi cyfle i ni wneud mwy i fynd i’r afael â’r cyffyrdd sy’n achosi tagfeydd, ac i edrych ar wella cyfleoedd i oddiweddyd ar ffyrdd allweddol o’r gogledd i’r de. Yn ogystal â hyn, bydd £15 miliwn arall yn cael ei ddyrannu drwy ein cronfa rhwydwaith trafnidiaeth leol, gyda’r nod o gynyddu cydnerthedd o ran diogelwch a symud ar hyd coridorau bws strategol. Mae’r cyllid sylweddol hwn yn rhan o £83 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cynlluniau ffyrdd a thrafnidiaeth yng Nghymru.
Llywydd, mae seilwaith teithio llesol yn elfen greiddiol wrth foderneiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth a chyflawni system drafnidiaeth integredig i Gymru, gan helpu i leihau allyriadau cerbydau a helpu i fynd i’r afael â thagfeydd. Nawr, mewn ateb a roddwyd i Jenny Rathbone ychydig yn gynharach heddiw, nodais sut yr hoffwn gynyddu’r buddsoddiad mewn seilwaith teithio llesol, ac edrychaf ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am hynny. Rydym yn ariannu nifer o ymyriadau newid ymddygiad, er enghraifft, drwy ein cefnogaeth i gydgysylltwyr y cynllun teithio a hyfforddiant i gerddwyr a beicwyr, megis Her Teithio Cymru a’r rhaglen Teithiau Llesol. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn systemau sy’n cefnogi rheoli teithio llesol, megis monitro rhwydweithiau drwy ein canolfannau rheoli traffig cenedlaethol.
Rydym eisoes wedi darparu cefnogaeth sylweddol drwy gomisiynu arolwg Cymru gyfan ar y seilwaith cerdded a beicio, ac wedi datblygu system mapio data teithio llesol y mae pob awdurdod lleol yn ei defnyddio ar gyfer eu mapiau. Rydym yn credu bod gwella ein system trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i wella ansawdd bywyd pobl Cymru. Byddwn yn parhau i gefnogi gwasanaethau trên a bws ac yn moderneiddio’r cynnig trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys datblygu rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus integredig megis y metro. Bydd metro arfaethedig de Cymru yn cynnwys rhwydwaith cludo cyflym integredig amlfoddol, gan gynnwys gwasanaethau bws a thrên gwell. Bydd yn darparu gwasanaethau bws a thrên cyflymach, amlach a mwy cydgysylltiedig. Mae angen gwella cysylltedd i gynnal twf y boblogaeth ac i fynd i’r afael â thagfeydd cynyddol ar y ffyrdd. Bydd prosiect y metro yn lasbrint ar gyfer trafnidiaeth integredig ar draws Cymru gyfan, gan drawsnewid rhagolygon economaidd a chymdeithasol y wlad. Fe ildiaf.