5. 5. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: ‘Tawelu'r traffig: Effaith tagfeydd ar wasanaethau bysiau’

– Senedd Cymru am 2:51 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:51, 11 Hydref 2017

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ‘Tawelu’r traffig: Effaith tagfeydd ar wasanaethau bysiau’. Rwy’n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Russell George.

Cynnig NDM6524 Russell George

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad i effaith tagfeydd ar wasanaethau bysiau a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:51, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n cynnig y cynnig. Pan fyddwn yn sôn am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, yn bennaf rydym yn sôn am fysiau. Teithiau bws yw dros 80 y cant o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ond dros y degawd diwethaf, mae gwasanaethau bws wedi gostwng bron i hanner. Os edrychwn ar y ffigurau rhwng 2005 a 2016 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, maent yn dangos i ni fod nifer y teithwyr wedi gostwng oddeutu 20 y cant. Yn ddiddorol, mae hyn yn cymharu â chynnydd o tua 1 y cant mewn amseroedd teithio yn Lloegr ar gyfer yr un cyfnod.

Mae cyflymder cyfartalog bysiau yng Nghymru yn dirywio’n gynt nag unrhyw ddull arall o deithio, ac mae amseroedd teithio a chyflymder arafach, wrth gwrs, yn gwneud teithio ar y bws yn ddewis llai deniadol i gwsmeriaid. Rwy’n awgrymu bod y gostyngiad mewn cyflymder yn cael ei achosi gan dagfeydd ar y ffyrdd yn ein trefi a’n dinasoedd ond hefyd mewn mannau allweddol lle y ceir problemau mewn ardaloedd gwledig yn ogystal. Yn sicr, nid wyf yn credu mai mater trefol yn unig yw hwn. Mae’n cynyddu amseroedd teithio, yn gwneud teithiau bws yn annibynadwy, yn cynyddu costau gweithredu a chostau teithio, ac yn tanseilio hyder teithwyr. Ac wrth gwrs, mae’n cadarnhau canfyddiadau negyddol ynglŷn â’r bws. Mae arbenigwr blaenllaw ar dagfeydd, yr Athro David Begg, wedi dweud bod tagfeydd traffig yn glefyd a fydd, os nad eir i’r afael ag ef, yn dinistrio’r sector bysiau.

Yn wyneb tagfeydd, mae gweithredwyr bysiau’n cael eu gorfodi i ymateb mewn un o ddwy ffordd: ceisio cynnal amlder y gwasanaeth gyda’r cynnydd cysylltiedig mewn costau neu weithredu llai o wasanaethau. Mae ein gwasanaethau bws yn cludo pobl i’r gwaith ac i addysg, yn cysylltu cymunedau, yn cefnogi ein heconomi ac yn helpu i wneud ein gwlad yn fwy gwyrdd drwy leihau nifer y ceir preifat ar ein ffyrdd. Maent yn achubiaeth i oddeutu chwarter cartrefi Cymru nad oes ganddynt gar at eu defnydd ac i’r rheini nad yw’r rheilffyrdd yn ddewis ymarferol iddynt.

Mae gwasanaeth bws sy’n ateb y gofyn yn cefnogi twf economaidd, ond mae ganddo hefyd amrywiaeth o effeithiau amgylcheddol cadarnhaol. Mae bysiau’n rhan o’r jig-so a fydd yn ein helpu i wireddu uchelgais, rwy’n credu, nifer o ddeddfwriaethau allweddol a basiwyd yma: ein hymrwymiadau i leihau carbon o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, y newid i deithio cynaliadwy a gefnogir gan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, a gweithio tuag at y nodau llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr ydym yn ei ystyried heddiw yn nodi ein barn ar y camau y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd ar fyrder i fynd i’r afael â’r effaith andwyol y mae tagfeydd yn ei chael ar y diwydiant bysiau yng Nghymru. Cafwyd enghreifftiau o fuddsoddiad sylweddol yn y diwydiant. Mae ansawdd cerbydau’n gwella ac mae deddfwriaeth ar waith i gefnogi newid moddol i drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy. Er gwaethaf hyn, mae niferoedd teithiau a theithwyr bws yn parhau i ostwng. Caiff y bws ei weld fel Sinderela trafnidiaeth gyhoeddus o hyd, ac mae angen gwrthdroi’r duedd hon am i lawr. Mae angen mwy o weithredu i fynd i’r afael â thagfeydd a gwella gwasanaethau bws ar gyfer pobl Cymru.

Mae ein hadroddiad yn nodi un argymhelliad sef y dylai Llywodraeth Cymru, fel mater o frys, ddatblygu a chyhoeddi cynllun gweithredu i amlinellu sut y bydd yn mynd i’r afael ag effeithiau tagfeydd traffig ar y diwydiant bysiau yng Nghymru. Er ein bod yn cydnabod bod yna rôl sylweddol i weithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol ei chwarae, mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfeiriad strategol clir ar y camau gweithredu sydd eu hangen, ac mae’n rhaid cychwyn drwy gydnabod graddau a hyd a lled effeithiau tagfeydd ar y diwydiant. Rydym angen ymrwymiad cadarn gan y Llywodraeth y bydd yn mynd i’r afael â’r mater, ac yn ystod ein hymchwiliad, clywsom fod angen gwaith pellach i ddeall yr achosion sylfaenol, ac wrth gwrs dylid defnyddio hyn i lywio’r gwaith o ddatblygu atebion cynaliadwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yn y frwydr yn erbyn tagfeydd, wrth gwrs. Maent angen cymorth gan Lywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth â gweithredwyr bysiau, maent angen arweiniad a chymorth i sefydlu cynlluniau partneriaeth bysus o ansawdd effeithiol, ac mae angen iddynt sicrhau eu bod yn gweithio mewn partneriaeth ar draws ffiniau gweinyddol sy’n aml yn ddiystyr i’r trigolion sy’n byw yno. Mae cynllunio lleol a rhanbarthol yn darparu’r mecanwaith delfrydol i sicrhau bod tagfeydd yn cael sylw ar sail ranbarthol. Mae llawer o offer ar gael ar hyn o bryd i helpu i drechu tagfeydd: cynlluniau parcio a theithio, codi tâl am dagfeydd, taliadau parcio estynedig, ardollau parcio yn y gweithle, ac wrth gwrs, mesurau blaenoriaethu bysiau hefyd megis lonydd bysiau. Mae angen i’r rhain gael eu hasesu yng nghyd-destun Cymru ac mae angen gwneud penderfyniadau ynglŷn â pha mor ddefnyddiol y gallent fod. Bydd gwahanol atebion, wrth gwrs, yn iawn ar gyfer gwahanol ardaloedd, ond mae’n ddiamheuol, fodd bynnag, os yw’r bws yn mynd i fod yn ateb i broblemau trafnidiaeth, mae angen iddo gael blaenoriaeth.

Mae gwasanaethau bws mewn sefyllfa amhosibl. Er mwyn lleihau tagfeydd, mae angen annog pobl i ddod o’u ceir a gwneud y newid i drafnidiaeth gyhoeddus. Tra bo tagfeydd yn dal i effeithio mor sylweddol ar deithiau bysiau, nid yw’r diwydiant bysiau yn debygol o fod yn ddewis deniadol. Mae llawer o waith i’w wneud i werthu manteision teithio ar fws. Mae angen i’r diwydiant bysiau farchnata ei hun yn fwy cadarnhaol, ac mae rôl i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ei chwarae yn datblygu a chyflwyno ymgyrch genedlaethol drawiadol i annog y newid moddol i drafnidiaeth gyhoeddus.

Mewn ymateb i Lywodraeth Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad cyffredinol i gynhyrchu cynllun gweithredu. Mae hefyd wedi cytuno ag awgrym y pwyllgor ynglŷn â’r hyn y dylai’r cynllun ei gynnwys. Rwyf wrth fy modd fod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu gweledigaeth ein pwyllgor am wasanaethau bws effeithiol ac effeithlon sy’n ymrwymedig i wella gwasanaethau bws ledled Cymru. Mae’r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad i ddeall achosion sylfaenol y mater yn well yn galonogol, ac ar ben hynny, yn dilyn yr uwchgynhadledd fysiau yn gynharach eleni, bydd yn cynnal gweithdy yn yr hydref, a bydd hyn yn rhoi cyfle i awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau a phartneriaid eraill ddod at ei gilydd i drafod y materion penodol yn eu hardaloedd. Rydym yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi adborth i’r pwyllgor cyn gynted â phosibl ar ôl i hynny ddigwydd.

Rydym yn parhau i fod yn bryderus ynglŷn â sut y bydd awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi cyllid ar eu cyfer i benodi cydgysylltwyr bws yng ngogledd a de Cymru, ac mae eu cylch gwaith yn cynnwys cydweithio agosach rhwng rhanddeiliaid i ddatblygu partneriaethau ansawdd bysiau. Mae llu o ganllawiau eisoes ar gael i awdurdodau lleol i’w hannog i weithio gyda’i gilydd, ac ni wyddom eto a fydd y swyddi newydd hyn yn gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad mewn gwirionedd o ran cyrraedd y nod terfynol o gael gwasanaeth mwy effeithlon a chynaliadwy ar gyfer defnyddwyr bysiau.

Rydym yn croesawu’r tryloywder gwell a ddaw gan Lywodraeth Cymru i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu refeniw disgwyliedig gweithredwyr bysiau ar gyfer pob llwybr y maent wedi ceisio am grant cynnal ar ei gyfer. Mewn cyfnod o wasgu ar gyllidebau, mae’n hanfodol cyfeirio’r cyllid, wrth gwrs, tuag at y gwasanaethau a’r llwybrau lle y mae fwyaf o’i angen. Rydym hefyd yn cefnogi’r cynnig a nodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb sef na ellid ond dyrannu’r grant i gefnogi gwasanaethau bysiau a oedd yn rhan o’r bartneriaeth ansawdd bysiau rhwng awdurdodau lleol a gweithredwyr. Buasai hyn yn gatalydd, rwy’n credu, ar gyfer gwelliannau ym maes gweithio mewn partneriaeth. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y ddadl y prynhawn yma ac at glywed cyfraniadau gan Aelodau ar draws y Siambr.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:01, 11 Hydref 2017

Rwy’n falch iawn o gefnogi argymhellion y pwyllgor, ac mae’n gyfle, wrth gwrs, i ni hoelio sylw, a dweud y gwir, tuag at ran o’n hisadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus, fel yr oedd Russell George yn dweud, sydd, yn anffodus, yn rhy hir ac yn rhy gyson wedi bod yn sector sinderela o ran buddsoddiad cyhoeddus ac o ran ffocws polisi cyhoeddus. Rydw i’n siarad fel rhywun oedd yn gwbl ddibynnol ar wasanaeth bysys fel person ifanc. Nid oedd car gyda ni fel teulu o gwbl, ac felly roeddwn i, yn yr ardal roeddwn i’n byw ynddi, ar wahân i ychydig o drenau oedd yn mynd rhyw dair gwaith y dydd, yn ddibynnol yn hollol ar y system bysys, fel y mae lot o bobl ifanc ac, wrth gwrs, pobl y to hŷn. Mae fy rhieni i yn dal yn hollol ddibynnol ar wasanaeth bysys sydd yn crebachu, a dweud y gwir, ac wedyn mae hynny yn eu rhoi nhw mewn sefyllfa o gael eu hynysu yn fwyfwy oherwydd bod hynny’n cyfyngu ar eu gallu nhw i deithio.

Felly, mae’n hollol allweddol, rwy’n credu, ein bod ni nawr yn hoelio sylw ar y diwydiant yma. Mae yn cynrychioli o hyd, er gwaethaf y crebachu a’r pwysau sydd wedi bod arno, yn dal i fod, rhyw 80 y cant o’n system drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ac, wrth gwrs, mewn rhannau helaeth o Gymru, dyma’r unig drafnidiaeth gyhoeddus sydd gennym ni. Felly mae clywed, fel y gwnaeth y pwyllgor, am y pwysau oherwydd tagfeydd sydd ar y diwydiant yn peri consýrn i ni i gyd. Fel mae’r pwyllgor yn dweud yn ei adroddiad, mae’r rhesymau am y tagfeydd, y ‘congestion’ yma, yn amrywio o le i le, ac un o’r argymhellion craidd, felly, ydy bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ati i gael gwell dealltwriaeth ynglŷn â’r gwahanol resymau a’r ffactorau sydd yn gyrru’r duedd yma ar draws Cymru, ac rwy’n falch o weld bod Llywodraeth Cymru, yn eu hymateb nhw, wedi ymrwymo i wneud y gwaith yma ar lefel lleol a rhanbarthol, gan weithio gydag awdurdodau lleol.

O ran beth y gellid ei wneud, rhan bwysig o symud pethau ymlaen, wrth gwrs, ydy cefnogi teithio llesol neu deithio gweithredol, yn unol â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, sydd yn ceisio, yn gyffredinol ar draws Cymru, annog sifft oddi wrth deithio mewn car tuag at fodd mwy cynaliadwy a hefyd mwy integredig o deithio ac o drafnidiaeth. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cymryd camau bras iawn, a dweud y gwir, i’r cyfeiriad yma. Maen nhw ar flaen y gad, rwy’n credu, ar lefel Prydeinig; maen nhw wedi dyblu’r gyllideb ar gyfer teithio llesol yn ddiweddar. Maen nhw wedi datgan pum cynllun ar draws yr Alban, gyda rhyw £22 miliwn o gyllid ar gyfer lonydd bysys, ar gyfer ffyrdd cerdded, ar gyfer llwybrau seiclo penodedig. Dyna’r math o uchelgais, rwy’n credu, yr hoffwn i ei weld gyda Llywodraeth Cymru.

Mae yna bethau y gellid eu gwneud nawr, wrth gwrs, i ddangos bod Llywodraeth Cymru yn gweld teithio ar fws yn ganolog i’r cynnig o ran teithio o ran trafnidiaeth integredig. Mae yna astudiaeth dichonoldeb, er enghraifft, ar gyfer ailagor y rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth. Rwy’n gefnogol iawn i hynny. Efallai mai nod tymor canol fyddai hynny. Ond mi fyddai modd dechrau nawr drwy fynnu yn y fasnachfraint, er enghraifft, fod yna wasanaeth coets, hynny yw, y gellid ei ddefnyddio fel rhan o’r system rheilffyrdd, yn gweithredu rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth nawr, er mwyn cael integreiddio go iawn rhwng bysys a rheilffyrdd.

Gan feddwl am y sefyllfa yma yng Nghaerdydd, mae e’n warth o beth, a dweud y gwir, nad oes yna ddim cynnydd wedi bod gyda’r orsaf fysys. Rŷm ni’n clywed bod yna ryw gwestiynau ynglŷn â beth sy’n mynd i gael ei ddatblygu ar y safle hwnnw. Mae’n rhaid, yn y brifddinas yma, gweld statws iawn yn cael ei roi i’r gwasanaeth bysys yn y brifddinas, fel yng ngweddill Cymru hefyd.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:06, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr adroddiad hwn, sy’n ddiddorol iawn. Mae annog pobl o’u ceir mewn dinas fel Caerdydd yn gwbl hanfodol er mwyn lleihau tagfeydd. Yn groes i reddf, wrth gwrs, mae tagfeydd yn lleihau nifer y bobl sy’n awyddus i deithio ar fws mewn gwirionedd, oherwydd eu bod yn credu y gallant ddilyn strydoedd cefn os ydynt yn teithio mewn car a chyrraedd yno’n gynt mewn cerbyd preifat. Felly, mae’n hynod bwysig ein bod yn gwneud rhywbeth i fynd i’r afael â thagfeydd bysiau oherwydd bydd pawb ohonom yn boddi yn ein llygredd aer ein hunain os na wnawn hynny, mewn dinas.

Pa fesurau y gallem eu cyflwyno? Wel, gallem fynd am brisio ffyrdd—mae’n ddrwg gennyf ddweud nad yw David Melding yma ar hyn o bryd. Mae’n amlwg yn ffordd resymegol iawn o leihau nifer y ceir preifat ar y ffordd ar yr adeg pan fyddant yn rhwystro’r bysiau rhag mynd trwodd. Yn Llundain, llwyddodd i gyflymu teithiau bysiau’n sylweddol a lleihau’r amser pan nad oeddent yn symud 30 y cant yn y flwyddyn gyntaf yn unig. Ond pan gynigiwyd hyn fel cynnig gan aelod cabinet yng Nghaerdydd, aeth hi’n sgrech yng Nghaerdydd. Rhoddodd pawb lwyth o resymau pam na ddylem fod yn gwneud hyn.

Dewis arall ysgafnach, ond un y credaf y dylem yn sicr wthio amdano am y tro, yw cynyddu nifer y lonydd sy’n blaenoriaethu bysiau. Rhoddodd Bws Caerdydd dystiolaeth i’r ymchwiliad a ddangosai nad oes llawer o bwynt cael lôn blaenoriaethu bysiau ar hyd 300 llath, efallai, yn hytrach na’r llwybr cyfan. Mae hynny’n sicr yn wir am y llwybrau bysiau ar hyd Heol Casnewydd. Mae’n broses herciog iawn mewn gofod cyfyngedig. Ond a dweud y gwir, mae’n rhaid i’r bws gael blaenoriaeth. Rhaid inni ei wneud yn y ffordd honno. Rwyf hefyd yn ymwybodol, pan argymhellwyd lôn fysiau ar hyd Ffordd Caerffili, ei bod wedi cael ei gwrthwynebu’n gadarn gan yr holl gynghorwyr lleol, er y dylent fod yn meddwl am anghenion y gymuned gyfan, nid yn unig y rhai sydd eisiau defnyddio eu ceir preifat, nad ydynt hyd yn oed yn byw yn eu hardaloedd lleol yn ôl pob tebyg. Felly, mae angen addysg yno.

Mae yna rôl bwysig hefyd i oleuadau traffig blaenoriaethol, yn amlwg, er mwyn sicrhau bod bysiau’n mynd yn gyntaf wrth y goleuadau traffig, cyn y ceir, ac mae honno’n ffordd bwysig o sicrhau eich bod yn cyrraedd yn gynt ar fws nag y gwnewch mewn car. Mae hwnnw’n amlwg yn un o’r ffactorau allweddol, pan fydd pobl yn rhedeg i’r gwaith, y byddant yn eu defnyddio. Gallwn weld sut, pan fo cynigion newydd wedi eu datblygu mewn ardaloedd allweddol, fel cyrraedd ysbyty Mynydd Bychan yng Nghaerdydd, er enghraifft: mae’r gwasanaeth parcio a theithio newydd o Bentwyn, cyffordd Llanedeyrn, wedi bod yn hynod o boblogaidd ac nid yn unig gyda defnyddwyr ceir sydd, yn lle eistedd mewn tagfeydd traffig ofnadwy yn ceisio ciwio i fynd i mewn i faes parcio aml-lawr, yn gallu cyrraedd yno mewn saith munud a hanner. Mae hefyd wedi bod o fudd i bobl nad oes ganddynt geir, oherwydd gallant naill ai gael tacsi neu gerdded ar draws y ffordd ac ymuno â’r gwasanaeth parcio a theithio. Felly, mae wedi bod yn ffordd hynod ddefnyddiol o sicrhau y gall pobl gyrraedd yr ysbyty mewn ffordd sy’n peri llai o straen, sy’n amlwg yn bwysig iawn pan ydych yn sôn am bobl sydd naill ai’n sâl eu hunain neu’n ymweld â rhywun sy’n sâl.

Ond yn yr wythnos y mae economegydd y ddamcaniaeth hwb, Richard Thaler, newydd ennill gwobr Nobel mewn economeg am ei waith ar y duedd ddynol i wneud penderfyniadau afresymol, mae’n rhaid inni feddwl am ffyrdd o annog pobl i wneud y penderfyniadau cywir, rhesymegol. Felly, rwy’n credu bod lonydd blaenoriaethu bysiau yn sicr yn un ohonynt, ac rwy’n credu bod angen inni fyfyrio ar ein polisi parcio am ddim mewn ysbytai, a all fod yn gwbl briodol mewn ardal fel Betsi Cadwaladr, lle rwy’n gwbl ymwybodol bod Ysbyty Glan Clwyd yn gwasanaethu diaspora enfawr o ardaloedd gwledig, lle rwy’n siŵr y bydd y gwasanaethau bws yn anaml a lle nad ydynt o reidrwydd yn gwasanaethu’r cymunedau hynny, ac ni ddylent, yn amlwg, gael eu cosbi am fynd i’r ysbyty, ond mewn ardal drefol, mae’n ymddangos i mi fod parcio am ddim mewn ysbytai yng nghanol ardal drefol, lle y bydd yn demtasiwn i gymudwyr adael eu ceir yn yr ysbyty, yn rhywbeth y mae angen i ni fyfyrio yn ei gylch yn eithaf gofalus, oherwydd gallai gael yr effaith gwbl groes i’r hyn yr ydym ei eisiau.

Diolch i bwyllgor yr economi, seilwaith a sgiliau am eu hadroddiad, ac rwy’n gobeithio y gallwn wneud llawer mwy i wthio’r rôl y dylai bysiau ei chwarae yn annog pobl i ddefnyddio bysiau yn enwedig ar gyfer cyrraedd y gwaith a’r ysgol, ac yn arbennig wrth ddisgwyl datblygiad y system fetro, yng Nghaerdydd ac Abertawe, lle y bydd yn rhaid i ni gynnig gwasanaethau bws fel dewis amgen hyd nes bod y metro’n bodoli, neu fel arall bydd Caerdydd, yn syml iawn, yn dod i stop o ganlyniad i’r tagfeydd.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:12, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, rwy’n cymeradwyo argymhellion yr adroddiad hwn yn llawn, a buaswn hefyd yn hoffi cydnabod y cyfraniadau a wnaed gan y sefydliadau a’r unigolion a roddodd eu hamser a’u hymdrech i annerch y pwyllgor. Fodd bynnag, wrth gyfrannu at y ddadl hon, hoffwn wneud nifer o sylwadau ac awgrymiadau personol y teimlaf y gallent helpu i liniaru’r broblem hynod ddifrifol hon. Wrth wneud hynny, nid wyf yn ymddiheuro am ddychwelyd at nifer o bwyntiau a wneuthum ar ôl datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar docynnau am ddim yn y Cyfarfod Llawn ddoe, gan gredu’n gryf fod ailadrodd yn rhoi pwyslais.

Er ei bod yn wir mai’r car yw’r dihiryn gwaethaf yn y ddadl hon, mae’n rhaid i ni hefyd gydnabod, i ryw raddau, fod bysiau eu hunain yn cyfrannu at y broblem. Mae gweld pedwar neu fwy o fysiau mewn rhes yng nghanol tagfeydd traffig, a phob un yn cludo nifer truenus o deithwyr, yr un mor rhwystredig â gweld dwsinau o geir yn cludo un person yn unig, sef y gyrrwr. Fel y nodwyd ddoe, mae’r syniad fod bysiau’n cadw at amserlen gaeth, heb ystyried y galw, yn gwbl chwerthinllyd. Yn bersonol, rwyf wedi gweld bysiau sydd bron â bod yn wag yn pasio fy nghartref o fewn cyfnodau o 10 munud yn unig i’w gilydd am y rhan fwyaf o’r dydd. Mae’n well i mi nodi yma nad yn aml yr wyf fi gartref am y rhan fwyaf o’r dydd.

Wrth gwrs, mae’n rhaid inni roi bai ar y cwmnïau bysiau eu hunain, a ddylai fod yn meddu ar y data sy’n dweud wrthynt am lefelau defnydd pob taith fws. Ond mae’n rhaid rhoi’r un faint o fai ar awdurdodau lleol, sydd, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthym, yn gyfrifol am weinyddu contractau bysiau a gwneud yn siŵr fod y trethdalwr yn cael y gwerth gorau am arian gan y gweithredwyr. Rwy’n credu o ddifrif fod yn rhaid cael arfarniad trylwyr o’r gwasanaethau a ddarparir gan gwmnïau bysiau, wedi’i oruchwylio gan Lywodraeth Cymru.

Unwaith eto, fel y crybwyllwyd ddoe, mae’n rhaid inni edrych ar y posibilrwydd o systemau trafnidiaeth gyhoeddus ar alw, sy’n defnyddio cerbydau llai yn ddelfrydol wrth gwrs, ac sy’n rhedeg ar drydan, y gellir eu hanfon at ddrysau pobl hyd yn oed. Hefyd, buasai’r unedau hyn yn llawer mwy addas ar gyfer nifer o drefi a strydoedd Cymru, sydd, fel y gŵyr pawb ohonom, yn aml yn gul a chyfyngedig. Buasai’n rhaid i ystadau tai newydd ddarparu mynediad ar gyfer cerbydau o’r fath, a fuasai, drwy ddiffiniad, yn haws nag ar gyfer y bysiau a ddefnyddir yn awr. Os ydym am ddileu neu o leiaf gael effaith sylfaenol ar y pla o dagfeydd traffig ar ein ffyrdd, mae’n rhaid inni addasu trafnidiaeth gyhoeddus i gyd-fynd ag anghenion y bobl, ac nid anghenion y rhai sy’n darparu’r gwasanaeth hwn.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 3:15, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, roedd yn bleser cymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn, a hefyd yn yr adroddiad a’i dilynodd. Buaswn hefyd yn hoffi diolch i bawb a roddodd eu hamser i gyfrannu at ein hymchwiliad. Yn amlwg, y bws yw’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus a ddefnyddiwn fwyaf, ond dyma’r ffurf fwyaf cynhwysol ar drafnidiaeth gyhoeddus hefyd. Dyma’r unig fath o drafnidiaeth gyhoeddus sy’n gallu cyrraedd pob un o’n cymunedau, boed yn drefol neu’n wledig, ac yn enwedig rhannau gogleddol o Gymoedd y de lle y bydd gwasanaethau bws, hyd yn oed ar ôl i’r metro gyrraedd, yn rhan allweddol o’r ddarpariaeth honno. Felly, mae’n bwysig iawn ein bod yn gallu mynd i’r afael â thagfeydd bws a chael y cynnig yn iawn.

Ddoe, Ysgrifennydd y Cabinet, rhoesoch y wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â theithio rhatach ar fysiau a dywedasoch wrthym mai un o nodau allweddol Llywodraeth Cymru yw:

cynyddu nifer y bobl o bob oed sy’n defnyddio bysiau ar gyfer eu taith ddyddiol i’r gwaith, ar gyfer addysg, mynediad at wasanaethau iechyd ac ar gyfer dibenion hamdden.

Felly, i wneud hyn, mae’n hanfodol ein bod yn mynd i’r afael â thagfeydd, oherwydd eu natur gylchol gynhenid, sy’n hollbwysig: mae tagfeydd bysiau’n atal pobl rhag teithio ar y bws, yn eu harwain yn ôl i’w ceir; mae hyn wedyn yn achosi mwy o dagfeydd, sydd, yn ei dro, yn gwneud bysiau’n arafach, ac mae’r broblem yn gwaethygu unwaith eto.

Mae’r ffigurau a ddyfynnir yn adroddiad y pwyllgor yn cwmpasu siâp yr her sydd o’n blaenau. Mae nifer y gwasanaethau bws lleol wedi haneru bron yn y 10 mlynedd hyd at 2015. Mae nifer teithiau teithwyr hefyd wedi gostwng, ond er gwaethaf hyn, fel y dywedais ar y dechrau, y bws yw’r ffurf fwyaf hanfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus a’r un a gaiff ei defnyddio fwyaf o hyd. Yn 2015-16, gwnaed dros 100 miliwn o deithiau gan deithwyr bysiau, ac mae hynny oddeutu pum gwaith y nifer cymharol o deithiau trên. Yn yr 20 mlynedd cyn 2015, mae teithiau bws wedi arafu ddwy filltir yr awr ar gyfartaledd: gostyngiad o 13 y cant mewn cyflymder sy’n golygu bod angen capasiti ychwanegol er mwyn cynnal y gwasanaeth yn unig. Dyma un symptom clir o effaith tagfeydd.

Yn fwy cyffredinol, mae tagfeydd yn effeithio’n negyddol ar yr amgylchedd ac ar iechyd ein cymunedau hefyd. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau wedi gweld y briff a ddarparwyd gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, sy’n cynnwys ffigurau llwm i gefnogi hynny. Gellir cysylltu 1,300 o farwolaethau cynnar bob blwyddyn yng Nghymru â llygredd aer. Mae plant, yn benodol, sy’n agored i lygredd aer difrifol bum gwaith yn fwy tebygol o fod ag ysgyfaint heb ddatblygu’n iawn a thuedd uwch i ddal heintiau.

Mae hefyd yn effeithio ar ein heconomi, ac ni allwn anwybyddu’r dimensiwn cyfiawnder cymdeithasol ychwaith. Roedd ychydig o dan hanner yr holl deithiau bws y llynedd yn docynnau teithio rhatach—cyfran gynyddol mewn cyferbyniad â’r patrwm cyffredinol o ddirywiad yn y defnydd. Ar gyfer yr aelwydydd nad oes ganddynt gar, mae bysiau’n achubiaeth yn wir. Fy awdurdod lleol fy hun, Rhondda Cynon Taf, yw’r pumed uchaf o ran nifer yr aelwydydd heb gar at eu defnydd—ychydig dros 27 y cant. Bydd llawer o’r bobl hynny’n byw mewn cymunedau na ellir eu cyrraedd ar y trên. Felly, mae’r bws yn achubiaeth mewn gwirionedd. Gyda’r niferoedd uchaf o aelwydydd heb gar at eu defnydd i’w gweld hefyd ym Merthyr Tudful a Blaenau Gwent, mae hwn yn amlwg yn fater allweddol i Gymoedd de Cymru. Fel y clywsom gan dystion yn un o sesiynau tystiolaeth pwyllgor yr economi, mae’r cyfuniad o dopograffi a chynllunio trefol a geir yn y Cymoedd yn gallu gwaethygu tagfeydd. I ddyfynnu tyst o Gyngor Rhondda Cynon Taf, a soniai am y terasau a geir yn y Cymoedd:

Mae’r strydoedd yn gul iawn. Nid oes lle... i drigolion barcio eu ceir, felly mae pobl yn parcio ar y stryd.

Gall hyn achosi tagfeydd difrifol ar lwybrau bysiau. Yn wir, mae’n broblem gyfarwydd yn fy etholaeth fy hun, ac rwy’n meddwl am lwybrau terasog Cwmaman, Penrhiw-ceibr ac Ynys-y-bŵl.

Gellir gwneud gwaith i fynd i’r afael â mannau lle y ceir problemau, megis y gwaith adfer mawr ei angen sydd ar y gweill ar hyn o bryd ar yr A4059 yng Nghwm-bach ac Aberpennar. Nodaf hefyd sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb i’n hystyriaethau mai un awdurdod priffyrdd yn unig a oedd wedi gwneud cais am y pwerau disgresiwn llawn a oedd ar gael iddynt gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i drechu tagfeydd traffig ac wedi eu mabwysiadu. Hoffwn ofyn hyn: ym mha ffordd arall y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn annog awdurdodau priffyrdd i ddefnyddio’r cyfle hwn i chwilio am atebion lleol i broblemau lleol?

Mae ystyriaeth 8 hefyd yn bwysig iawn. Mae angen inni hyrwyddo ein rhwydwaith bysiau fel opsiwn cyfleus a fforddiadwy, ac yn anad dim, fel opsiwn dibynadwy ar gyfer teithio. Roeddwn yn hoff iawn o safon y gwasanaeth bws Stagecoach, eu gwasanaeth aur newydd, ac yn yr un modd, mae pethau fel TrawsCymru yn dangos yr hyn y gellir ei wneud gyda dull cyfforddus o deithio sy’n hyrwyddo cyfleusterau fel Wi-Fi. Unwaith eto, mae sicrhau ein bod yn trechu tagfeydd yn allweddol i hyn fel bod bysiau’n ddewis cyntaf go iawn ac nid yn ddewis olaf.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:21, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi adleisio diolch aelodau eraill o’r pwyllgor i dystion a ddaeth i roi tystiolaeth i’r pwyllgor? Roedd yn ymchwiliad diddorol. Rwy’n gobeithio ac yn credu bod ei gasgliadau wedi bod yn ddefnyddiol, ac rwy’n croesawu’r ffordd y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed ynddo.

Mae bob amser yn dda cael cymryd rhan mewn trafodaeth ar fysiau lle y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb iddi oherwydd gwn ei fod yn gefnogwr ymroddedig a brwd i’r sector diwydiant bysiau yng Nghymru. Credaf fod yr uwchgynhadledd fysiau a gynhaliwyd ganddo wedi cael ei chroesawu gan bob rhan o’r sector. Bydd yn cofio’r trafodaethau a gawsom am adroddiad fforwm economaidd ardal Castell-nedd, a gyflwynais iddo ef a chyd-Aelodau o’r Cabinet yn gynharach yn y flwyddyn, ac un o’r pethau y gofynnai’r adroddiad amdanynt, os hoffech, oedd bargen newydd i ddefnyddwyr bysiau, ac rwy’n credu bod y cwestiwn ynglŷn ag effaith tagfeydd traffig ar wasanaethau bysiau yn elfen hanfodol wrth gynnig y fargen newydd honno. Mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod effeithiau andwyol y lefel honno o dagfeydd ar ein gwasanaethau bysiau. Fel y mae Jenny Rathbone ac eraill wedi’i nodi, ni allwch ddisgwyl i bobl ddefnyddio bysiau os nad ydynt yn symud yn ddigon cyflym. Mae hynny’n creu cylch dieflig, ac eto mae ein model cyfredol yn gofyn i ni wneud yn siŵr fod bysiau mor llawn o deithwyr sy’n talu ag y gallant fod.

Mae nifer o ardaloedd yn fy etholaeth, fel Aelodau eraill yn y Siambr hon, heb wasanaeth bws da o gwbl oherwydd, ar un ystyr, maent wedi’u dal yn nhir neb rhwng gwasanaethau bws lleol nad ydynt yn fasnachol hyfyw ar y naill law a’r ffaith nad oes lefelau digonol o gymhorthdal i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus â chymhorthdal ar y llaw arall. Felly, mae’r her honno rhwng proffidioldeb a chymhorthdal cyhoeddus yn rhan annatod o’n system gyfredol, ac yn dangos yn glir i mi ac i Aelodau eraill nad yw’n gweithio ar y model cyfredol, os mynnwch—y model busnes cyfredol.

Ond mae gennyf un apêl, a dweud y gwir, i Ysgrifennydd y Cabinet, a gwn fy mod yn gwthio wrth ddrws agored yma yn bendant, sef i edrych ar fater tagfeydd bws fel rhan o fater llawer mwy mewn gwirionedd. Mae’n amlwg mai’r hyn sydd ei angen yma yw ateb i dagfeydd bws, ond hefyd mae angen golwg strategol ar nifer o ffactorau sydd ar waith wrth gyflwyno’r math o wasanaeth bysiau y mae fy etholwyr ac etholwyr eraill ei angen ac yn ei haeddu, a bod yn gwbl onest. Bydd hyn yn ein tywys ar hyd llwybr technoleg a blaenoriaethu bysiau a materion cynllunio, sy’n cael eu trafod yn dda a’u harchwilio’n dda yn yr adroddiad. Ond mae angen i ni ystyried hefyd a yw’r grant cymorth gwasanaethau bws, y gronfa drafnidiaeth leol, y gronfa rhwydwaith trafnidiaeth leol, a’r buddsoddiad y mae awdurdodau lleol eu hunain yn ei wneud mewn llwybrau bysiau, yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau ar hyn o bryd wrth fynd ar drywydd amcanion y Llywodraeth yn hyn o beth—ac wrth gwrs, rôl gweithredwyr bysiau’n dewis y math cywir o fflyd, a fflyd werdd. Rydym yn cydnabod bod trafnidiaeth fysiau’n ddewis mwy ecogyfeillgar na theithio mewn car, ond mewn gwirionedd nid yw hynny ond yn parhau’n wir os yw ansawdd y fflyd yn cael ei gynnal a’i wella, ac mai dyna’r fflyd fwyaf ecogyfeillgar y gall y model ei chynnal.

Ceir llawer o gymhellion croes i’r graen yn y system gyfredol sydd wedi eu deall yn dda iawn, felly mewn gwirionedd apêl yw hon i ddod o hyd i ateb cydgysylltiedig i nifer o heriau cysylltiedig, ac i edrych ar y peth o safbwynt strategol.

Photo of Hefin David Hefin David Labour 3:25, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Buaswn yn cefnogi byrdwn cyffredinol y sylwadau a wnaed hyd yn hyn. Os ydym am gysylltu’r dwyrain a’r gorllewin, nid trenau fydd yr ateb, fel sydd eisoes wedi cael ei gydnabod. Yn ei ymateb, wrth dderbyn ystyriaeth 1 yr adroddiad, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn yn benodol am gyllid i gael gwared ar fannau lle y ceir problemau er mwyn trechu tagfeydd ar y rhwydwaith bysiau, ac rydym yn croesawu’r cyllid hwn yn fawr.

Mae cyngor Caerffili wedi derbyn cyfran o’r arian hwnnw i helpu i wneud gwelliannau ar gylchfan brysur Pwll-y-Pant neu Cedar Tree yng Nghaerffili. Ar wefan y cyngor maent wedi dweud:

‘Bydd y gwelliannau’n cynyddu cynhwysiad yn y lleoliad strategol allweddol hwn, yn ogystal â lleihau tagfeydd a gwella dibynadwyedd amser teithio ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol.’

Drwy’r adroddiad, fodd bynnag, ceir trafodaeth ar risg wleidyddol, ac un o’r problemau gyda chyflawni’r math hwn o waith gwella angenrheidiol yw bod y gwaith yn cymryd amser. Mae trigolion Caerffili yn gandryll ar hyn o bryd oherwydd yr oedi sy’n digwydd ar gylchfan Pwll-y-Pant, sy’n mynd yn syth yn ôl drwodd i Ystrad Mynach a Bedwas a thuag at Benyrheol. Mae’n broblem enfawr, a fy mwriad yw cyfarfod â chyngor Caerffili a siarad â hwy ynglŷn â’r camau pellach y gellir eu cymryd. Gwn fod cynghorwyr lleol wedi cyfarfod â’r cyngor heddiw i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:26, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

A wnaiff yr Aelod ildio?

Photo of Hefin David Hefin David Labour

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, wrth gwrs.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

A fyddai’r Aelod yn derbyn bod y dystiolaeth yn dangos, er mwyn cyflawni newid moddol, pan fyddwch yn gwneud newidiadau capasiti fel cael gwared ar fannau lle y ceir problemau, y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny yw ailddyrannu gofod ffyrdd? Felly, yn hytrach na bod y gofod hwnnw’n llenwi gyda cheir eto, rydych yn ymgorffori lonydd bysiau neu newidiadau goleuadau traffig neu balmentydd lletach er mwyn ceisio cymell newid mewn patrymau ymddygiad.

Photo of Hefin David Hefin David Labour

(Cyfieithwyd)

Ac mae hyn yn rhan o’r gwelliannau sydd ar y gweill. Er mwyn cyflawni hynny, mae angen newid moddol hefyd. Ond os ydych am sicrhau newid moddol, nid yw hynny’n digwydd yn gyflym, a bydd rhai o’r gwelliannau sy’n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd yn mynd i’r afael â rhai o’r pethau rydych wedi’u crybwyll mewn gwirionedd. Fodd bynnag, fy mhwynt yw bod yna risg wleidyddol yn gysylltiedig â hynny oherwydd eich bod yn creu newid, ond hefyd, mae creu’r gwelliannau hyn hyd yn oed yn creu llawer iawn o gynnwrf yn y gymuned, ac rwy’n credu mai’r hyn sydd angen i wneuthurwyr polisi ei wneud yw dangos y manteision clir sy’n deillio o hyn.

Mae’r cyllid i’w groesawu ac mae’n dangos bod Ysgrifennydd y Cabinet o ddifrif ynglŷn â mynd i’r afael ag effaith tagfeydd ar fysiau a’r rhwydwaith ffyrdd ehangach, ond mae wedi dod â materion eraill i’r amlwg. Ceir amrywiaeth eang o broblemau sy’n gysylltiedig â siâp cymunedau’r Cymoedd a’r ffaith ein bod, i bob pwrpas, yn dwneli sy’n arwain i mewn i Gaerdydd. Mae’n broblem go iawn.

Un o’r materion rwyf wedi’i grybwyll sawl gwaith yn y Siambr hon yw gorddatblygu tai a’r pwysau sy’n deillio o hynny ar y seilwaith trafnidiaeth. Ni allwch ddarparu cartrefi os na allwch sicrhau seilwaith trafnidiaeth effeithiol. Rwy’n pryderu ein bod yn mynd i’r afael â’r ddau beth ochr yn ochr â’i gilydd, ond mae angen i’r cysylltiad fod yn well.

Un o’r pethau a nodais o’r dystiolaeth a gawsom oedd pa mor anhrawiadol, a dweud y gwir, oedd peth o’r dystiolaeth gan awdurdodau lleol. Nid wyf am enwi a chywilyddio, ond roedd yna awdurdodau lleol a oedd yn trin gweithredwyr bysiau fel rhanddeiliaid eraill ochr yn ochr â defnyddwyr ceir, ac nid yw hynny, a bod yn onest—i ateb eich cwestiwn unwaith eto—yn ddigon da. Mae angen i chi ymgysylltu’n rhagweithiol â gweithredwyr bysiau yn eich gwaith cynllunio lleol os ydych am gyflawni’r math o newidiadau yr ydym am eu gweld. Nid oedd yr awdurdodau lleol y gwelsom dystiolaeth ganddynt yn cyflawni hynny. Mae’n rhaid iddynt ymgysylltu’n well â gweithredwyr bysiau. A gyda llaw, nid wyf yn cyfrif bwrdeistref sirol Caerffili yn hynny, i fod yn glir.

Mae hynny hefyd yn cael ei gydnabod yn ymateb Llywodraeth Cymru—mwy o weithio mewn partneriaeth agosach â gweithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol cyfagos. Rwy’n credu bod angen dull trawsffiniol o weithredu ar bob math o faterion cynllunio, gan gynnwys y cynlluniau datblygu strategol y bûm yn galw amdanynt, a ddylai ddisodli, yn fy marn i, y cynlluniau datblygu lleol cul a phlwyfol nad ydynt yn caniatáu’r symudiad ar draws cymunedau’r Cymoedd.

Mae’r fargen ddinesig yn fy ardal a fy rhanbarth yn rhoi cyfle i’r math hwn o waith allu digwydd. Mae’n ôl troed da ar gyfer gweithio rhanbarthol ac rwy’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cydnabod hynny drwy alw am weithio ar y cyd. Ond rwy’n credu, mewn gwirionedd, fod yn rhaid i ni ddweud mai tai, materion cynllunio ehangach a thrafnidiaeth yw’r tri mater cysylltiedig mwyaf y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth fynd i’r afael â’r pethau hyn. Os eir i’r afael â hwy’n gyfochrog, ni fyddwn yn cyflawni ein hamcanion. Yr hyn y ceisiwn ei wneud, yn enwedig mewn perthynas â bargeinion twf rhanbarthol, yw cyfunioni a chydgysylltu’r tri maes hwnnw. Nid oes gennyf amheuaeth y gallwn gyflawni hynny, ond mae angen y meddwl cysylltiedig hwnnw.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:30, 11 Hydref 2017

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Llywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Gadeirydd ac aelodau Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am eu hadroddiad, am eu gwaith craffu, ac am eu hargymhellion. Rwy’n falch o allu derbyn pob un o’r argymhellion, ac rwy’n credu y buasai’n anodd iawn anghytuno â llawer o’r hyn y mae’r Aelodau wedi’i ddweud heddiw.

Mewn ymateb i Jeremy Miles, rwy’n ofni bod fy mrwdfrydedd ynglŷn â’r pwnc arbennig hwn wedi achosi i mi gael fy ngheryddu’n ysgafn ddoe am gymryd mwy na’r amser penodedig yn ystod y datganiad ar docynnau bws rhatach, felly rwy’n addo y byddaf mor gryno â phosibl heddiw. A buaswn yn cytuno hefyd gyda Jeremy ac Aelodau eraill a siaradodd am yr angen i edrych ar y gwasanaethau bysiau fel rhan o ddarlun llawer mwy.

Mae tagfeydd yn effeithio ar yr economi, mae’n effeithio ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl Cymru, ac rwy’n cydnabod bod rhagolygon galw yn nodi y bydd defnydd o’r ffyrdd yn parhau i dyfu. Dyna pam fod mynd i’r afael â thagfeydd yn ffocws â blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a pham ei fod yn rhan annatod o strategaeth drafnidiaeth Cymru ac yn wir, y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, yn ogystal â’r strategaeth genedlaethol a lansiwyd yn ddiweddar, ‘Ffyniant i Bawb’. Mae’r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd yn 2015, yn nodi rhaglen bum mlynedd uchelgeisiol o ymyriadau trafnidiaeth a fydd yn bwrw ymlaen â’r mesurau rydym yn eu cymryd ledled Cymru i sicrhau ei bod yn cael ei chysylltu drwy rwydwaith trafnidiaeth dibynadwy, modern ac integredig. Mae camau i liniaru tagfeydd ar ffyrdd Cymru yn cynnwys datblygu ein cyfres o fodelau, fel y gallwn gyfarwyddo a rhagweld gofynion y dyfodol yn well a chynllunio ymhell o flaen llaw. Rydym hefyd wedi sicrhau bod pwerau ar gael i awdurdodau lleol i fabwysiadu gorfodaeth sifil yn erbyn ystod o dramgwyddau ar y ffyrdd, gan gynnwys troseddau parcio, troseddau lonydd bysiau a throseddau traffig symudol penodol. Ac rwy’n credu ei bod yn bwysig fod awdurdodau lleol yn defnyddio’r pwerau hyn i wella tagfeydd.

Fel y nododd Hefin David, rydym yn gweithio gyda phartneriaid lleol i nodi ardaloedd lle y ceir problemau ac i sicrhau gwelliannau seilwaith er mwyn hwyluso llif traffig. Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi £24 miliwn ar gyfer ardaloedd lle y ceir problemau, a fydd yn rhoi cyfle i ni wneud mwy i fynd i’r afael â’r cyffyrdd sy’n achosi tagfeydd, ac i edrych ar wella cyfleoedd i oddiweddyd ar ffyrdd allweddol o’r gogledd i’r de. Yn ogystal â hyn, bydd £15 miliwn arall yn cael ei ddyrannu drwy ein cronfa rhwydwaith trafnidiaeth leol, gyda’r nod o gynyddu cydnerthedd o ran diogelwch a symud ar hyd coridorau bws strategol. Mae’r cyllid sylweddol hwn yn rhan o £83 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cynlluniau ffyrdd a thrafnidiaeth yng Nghymru.

Llywydd, mae seilwaith teithio llesol yn elfen greiddiol wrth foderneiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth a chyflawni system drafnidiaeth integredig i Gymru, gan helpu i leihau allyriadau cerbydau a helpu i fynd i’r afael â thagfeydd. Nawr, mewn ateb a roddwyd i Jenny Rathbone ychydig yn gynharach heddiw, nodais sut yr hoffwn gynyddu’r buddsoddiad mewn seilwaith teithio llesol, ac edrychaf ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am hynny. Rydym yn ariannu nifer o ymyriadau newid ymddygiad, er enghraifft, drwy ein cefnogaeth i gydgysylltwyr y cynllun teithio a hyfforddiant i gerddwyr a beicwyr, megis Her Teithio Cymru a’r rhaglen Teithiau Llesol. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn systemau sy’n cefnogi rheoli teithio llesol, megis monitro rhwydweithiau drwy ein canolfannau rheoli traffig cenedlaethol.

Rydym eisoes wedi darparu cefnogaeth sylweddol drwy gomisiynu arolwg Cymru gyfan ar y seilwaith cerdded a beicio, ac wedi datblygu system mapio data teithio llesol y mae pob awdurdod lleol yn ei defnyddio ar gyfer eu mapiau. Rydym yn credu bod gwella ein system trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i wella ansawdd bywyd pobl Cymru. Byddwn yn parhau i gefnogi gwasanaethau trên a bws ac yn moderneiddio’r cynnig trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys datblygu rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus integredig megis y metro. Bydd metro arfaethedig de Cymru yn cynnwys rhwydwaith cludo cyflym integredig amlfoddol, gan gynnwys gwasanaethau bws a thrên gwell. Bydd yn darparu gwasanaethau bws a thrên cyflymach, amlach a mwy cydgysylltiedig. Mae angen gwella cysylltedd i gynnal twf y boblogaeth ac i fynd i’r afael â thagfeydd cynyddol ar y ffyrdd. Bydd prosiect y metro yn lasbrint ar gyfer trafnidiaeth integredig ar draws Cymru gyfan, gan drawsnewid rhagolygon economaidd a chymdeithasol y wlad. Fe ildiaf.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 3:34, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am ildio. Rwy’n eich cefnogi chi’n llwyr, Ysgrifennydd y Cabinet, mewn perthynas â’r metro. Tybed a oes unrhyw ystyriaeth neu drafodaethau pellach wedi bod dros y posibilrwydd o sefydlu canolfan fetro yn y Celtic Manor. Rwyf wedi dwyn hyn i’ch sylw sawl gwaith o’r blaen ac rwy’n credu y byddai’n ddatblygiad da yn y rhwydwaith metro.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:35, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’r Aelod wedi codi hyn droeon yn y Siambr a’r tu allan i’r Siambr. Rwy’n credu bod y syniad yn un teilwng iawn, yn enwedig wrth i ni weld datblygiad y ganolfan gynadledda yn y Celtic Manor. Mae’r metro’n cael ei gynllunio mewn ffordd a fydd yn ei wneud yn estynadwy, fel y gellir creu gwasanaethau ychwanegol a chanolfannau ychwanegol yn ôl yr angen. Felly, mae’n sicr yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried o fewn Trafnidiaeth Cymru, ac mae’n rhywbeth rwy’n arbennig o awyddus i’w weld yn cael ei ystyried fel rhan o estyniad posibl y rhwydwaith metro.

Credaf nad oes amheuaeth fod tagfeydd traffig yn effeithio’n negyddol ar ddibynadwyedd a phrydlondeb gwasanaethau bws, a bod hyn yn ei dro yn gwneud teithio ar fws yn llai deniadol. Rydym yn ariannu ac yn gweithredu nifer o ymyriadau ar gyfer tagfeydd, fel yr amlinellwyd yn gynharach, ac rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i rwydwaith trafnidiaeth integredig y credaf y bydd yn mynd i’r afael â heriau megis tagfeydd traffig a llygredd amgylcheddol.

Llywydd, mae angen i ni hefyd annog gyrrwyr i ddefnyddio bysiau’n amlach, drwy wneud bysiau’n fwy deniadol o ran pris teithio, drwy osod prisiau cystadleuol a syml, drwy systemau tocynnau amlweithredol, gyda threfniadau rhannu refeniw tryloyw a theg yn sail iddynt, ac wrth gwrs, drwy roi cyhoeddusrwydd i ba mor dda yw ein rhwydwaith bysiau eisoes. Gan adeiladu ar yr uwchgynhadledd fysiau a gynhaliwyd ym mis Ionawr, cynhelir nifer o weithdai yr hydref hwn i wneud gwaith pellach i ystyried y ffordd orau inni wella profiad teithwyr mewn arosfannau bws drwy ddarparu cyfleusterau gwell, yn gyson â’r ddarpariaeth wybodaeth i deithwyr, i ddatblygu atebion cyllido sy’n cynnig mwy o sefydlogrwydd i’r diwydiant bysiau yng Nghymru, a chyflwyno system drafnidiaeth integredig sy’n darparu gwell hygyrchedd ac atebion tocynnau sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Llywydd, rwyf hefyd yn ystyried yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad ar wasanaethau bysiau lleol yng Nghymru, rhan o sgwrs genedlaethol a galwad am dystiolaeth, yn dilyn llwyddiant yr uwchgynhadledd fysiau, ar y cyfeiriad tymor hwy ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol, a chynigion, rwy’n credu, a allai wneud gwelliannau sylweddol i wasanaethau yng Nghymru.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:37, 11 Hydref 2017

Galwaf ar Russell George i ymateb i’r ddadl.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Llywydd. A gaf fi yn gyntaf oll ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei eiriau ar ddechrau ei gyfraniad? Fel pwyllgor, wrth gwrs, rydym yn falch eich bod wedi derbyn ein hargymhellion, ond rydym yn falch iawn eich bod o ddifrif ynglŷn â’r mater hwn, ac rydym yn ddiolchgar eich bod wedi derbyn casgliadau ein hadroddiad.

Adam Price—roedd ei brofiad fel person iau yn cyd-daro â sefyllfa neu brofiad llawer o bobl heddiw sy’n gwbl ddibynnol ar wasanaeth bws, heb gar teuluol, neu wasanaeth trên nad yw bob amser yn addas. Ac rwy’n cytuno’n llwyr ag Adam Price parthed ei sylwadau ar drafnidiaeth integredig. Rwy’n siŵr ein bod i gyd, fel ACau yn y Siambr, yn cael etholwyr yn cysylltu â ni gydag enghreifftiau—a gwn fod hyn yn digwydd i mi’n aml—o fws sy’n gadael yn syth ar ôl i’r trên gyrraedd. Neu a wyf fi wedi’i ddweud o chwith? Ond fe wyddoch beth rwy’n ei olygu.

Rwy’n credu bod David Rowlands yn gwneud pwynt cywir hefyd, sef nad mater i’r Llywodraeth yn unig yw hwn. Mae hwn yn fater y mae ein hawdurdodau lleol a’r cwmnïau bysiau eu hunain—mae ganddynt hwy ran i’w chwarae yn datrys hyn hefyd. Yn sicr, nid ydym fel pwyllgor yn awgrymu mai cyfrifoldeb y Llywodraeth yn unig yw datrys rhai o’r materion hyn.

Tynnodd Vikki Howells a Hefin David sylw at y dystiolaeth a gawsom gan awdurdodau lleol yn ein pwyllgor. Mae’n rhaid i mi ddweud bod y dystiolaeth honno wedi bod yn dipyn o agoriad llygad, ac mae’n bosibl fod peth tystiolaeth annisgwyl wedi dylanwadu ar gasgliadau ein hadroddiad. Ac wrth gwrs, un thema barhaus y siaradais amdani yn fy sylwadau agoriadol, ond a godais hefyd gyda Jenny a Jeremy Miles, oedd bod yna gylch dieflig—y sefyllfa amhosibl honno—sy’n rhaid ei oresgyn.

Rwy’n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu gweledigaeth y pwyllgor am wasanaethau bws effeithiol ac effeithlon a’i fod wedi ymrwymo i wella gwasanaethau bws ledled Cymru. Hir y parhaed y Llywodraeth i dderbyn argymhellion ein hadroddiadau pwyllgor yn llawn. Hoffwn hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei wahoddiad i ACau fynychu’r uwchgynhadledd fysiau, ac er na allwn fod yn bresennol, roeddwn yn ddiolchgar am y gwahoddiad y llynedd. Dylwn ddiolch hefyd i gyd-Aelodau’r pwyllgor am eu gwaith ar yr adroddiad hwn, a thîm clercio ac ymchwil y pwyllgor, wrth gwrs, sydd bob amser yn rhoi cefnogaeth o safon uchel iawn i ni, ac wrth gwrs i bawb a roddodd dystiolaeth i’n pwyllgor. A diolch i bawb a gyfrannodd heddiw, yn enwedig i Jenny Rathbone, sydd yn aml, rwy’n sylwi, yn gwneud sylwadau ac yn cyfrannu at ein dadl er nad yw hi’n aelod o’r pwyllgor. Rwy’n ddiolchgar fod gennym Aelodau o gwmpas y Siambr hon sy’n cadw llygad ar ein gwaith ac yn darllen ein hadroddiadau er nad ydynt o reidrwydd ar y pwyllgor. Rwy’n gobeithio bod ein hadroddiad wedi bod yn gyfraniad effeithiol at y ddadl ar deithio ar fysiau a sut i leihau tagfeydd ar ein ffyrdd. Efallai na all gwasanaethau bws yng Nghymru gael gwared ar eu henw o fod yn Sinderela trafnidiaeth gyhoeddus eto, ond dylem wneud popeth yn ein gallu i sicrhau eu bod yn gallu mynd i’r ddawns.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:41, 11 Hydref 2017

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.