Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 11 Hydref 2017.
Rwy’n derbyn pryderon yr Aelod ac rwy’n cytuno’n llwyr fod yna gyfleoedd yn bodoli hefyd. Y broblem yw bod gennym fusnesau sy’n gweithio i gyflenwi mewn union bryd, ac o ran cynhyrchion bwyd, mae’n hynod gritigol yn awr mewn gwirionedd, ac mae hynny’n bwysig felly. Buasai’r oedi y gellid ei brofi’n effeithio ar hynny.
Mae ein hargymhelliad cyntaf, felly, yn deillio o’r pryderon hyn ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad oes unrhyw borthladd yng Nghymru dan anfantais annheg o ganlyniad i drefniadau ffiniau yn y dyfodol. Ac rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn.
Y thema allweddol nesaf a ddaeth i’r amlwg yn ystod ein hymchwiliad oedd pryder yn ymwneud â dyfodol trefniadau tollau y DU ar ôl i ni adael yr UE. Nawr, rwy’n derbyn bod papur sefyllfa wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU ers hynny, a hefyd y Papur Gwyn ar ddyfodol Bil tollau posibl, ond wedi darllen y rheini, ni chefais lawer o gysur mewn gwirionedd y byddant yn mynd i’r afael â’r materion hyn.
Ers 1993 a chwblhau marchnad sengl Ewrop, mae nifer y nwyddau sy’n cael eu cludo rhwng Caergybi a Dulyn wedi cynyddu 694 y cant. Fel y mae, ac fel y nodwyd yn araith y Prif Weinidog yn Lancaster House, bydd y DU yn gadael yr undeb tollau fel rhan o broses Brexit. Mynegodd y rhan fwyaf o’r tystion bryderon ynglŷn â gadael yr undeb tollau a’r effaith y buasai ailgyflwyno gwiriadau tollau yn ei chael o ran oedi—ac fel y mae’r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru eisoes wedi’i nodi, mae gan hynny elfennau hanfodol i fusnesau yn ei ardal. Ar ben hynny, mae amcangyfrif diweddaraf CThEM yn awgrymu y gallai Brexit arwain at gynnydd yn natganiadau tollau y DU, o’r £55 miliwn y flwyddyn presennol—£55 miliwn y flwyddyn—i hyd at uchafswm o £255 miliwn y flwyddyn. Mae hynny bum gwaith yn fwy na’r ffigur ar hyn o bryd.
Ar yr un pryd, clywsom y gallai defnyddio technoleg newydd helpu i leddfu rhai o risgiau gwaethaf yr oedi. Daw technoleg i’r adwy. Mae hyd yn oed y Papur Gwyn yn cyfeirio’n gyson at atebion technolegol i helpu i sefydlu ffin ddi-ffwdan rhwng y DU a’r UE. Ond er mwyn gwneud hyn, rydym angen i’r atebion TG fod ar waith erbyn 2019, ac mae pawb y siaradasom â hwy’n dweud—ac mae hanes blaenorol yn dweud wrthym—fod hynny’n annhebygol o ddigwydd. Felly, ni fydd yr atebion ar waith erbyn yr adeg honno. Nid wyf yn dweud na all ddigwydd, ond mae amser yn ffactor mawr.
Mae ein hail a’n trydydd argymhelliad yn adlewyrchu’r pryderon hyn ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd atebion TG, a threfniadau tollau’r DU yn y dyfodol, efallai, ar ôl y trafodaethau y bydd yn eu cael, oherwydd mae’r Papur Gwyn, unwaith eto, yn siarad am ymwneud â’r sefydliadau datganoledig a Llywodraethau datganoledig, a hoffwn wybod yn union pa ran y mae eisoes wedi’i chwarae yn y broses o gyhoeddi’r Papur Gwyn ar y Bil tollau. Fodd bynnag, nid yw aros i Lywodraeth y Deyrnas Unedig sicrhau atebion, yn enwedig yng nghyd-destun y pwerau newydd dros borthladdoedd a fydd yn cael eu datganoli i Gymru yn gynnar y flwyddyn nesaf, yn ddigon da. Mae angen i’r Llywodraeth liniaru’r peryglon posibl i fusnesau Cymru drwy sicrhau bod gan fusnesau bob dim sydd ei angen arnynt i wneud y mwyaf o gyfleoedd a ddarperir gan bethau fel cynlluniau gweithredwr economaidd awdurdodedig a masnachwr yr ymddiriedir ynddo—a chanolbwyntir ar y rhain, unwaith eto, yn y Papur Gwyn, ond mae angen i ni sicrhau bod ein busnesau ar waith cyn gynted â phosibl gyda’r rheini.
Mae pryder allweddol arall yn ymwneud â’r cyfyngiadau capasiti y mae’r porthladdoedd eu hunain yn eu hwynebu. Clywsom y gallai’r diffyg gofod i ddarparu ar gyfer gwiriadau ffiniau a thollau newydd ar ôl Brexit arwain at oedi hir yn ein porthladdoedd—ac nid yng Nghymru’n unig, oherwydd mae’r un broblem gan Dover, fel sydd wedi cael sylw’n aml. Ac wrth sôn am Dover, cofiwch mai Caergybi yw’r ail borthladd prysuraf yn y DU ar gyfer cargo sy’n cael ei rolio ar ac oddi ar longau ar ôl Dover. Felly, mae ein pumed argymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwaith brys yn y maes hwn—ac nid yw gwaith brys, gyda llaw, yn golygu rhai o’r atebion a glywsom yn y sesiwn dystiolaeth, lle y dywedodd rhywun, ‘Wel, byddwn wedi gadael yr UE, ni fydd y gyfarwyddeb cynefinoedd yn weithredol mwyach, gallwn groesi hyd yn oed yn haws.’ Nid dyna yw’r bwriad a geisiwn.
Er ein bod yn croesawu’r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i’r argymhelliad hwn mewn egwyddor, mae’r diffyg manylder, efallai, yn ei ymateb ychydig yn siomedig, ac o bosibl, nid yw’n mynd i’r afael yn ddigonol â’r pryderon y tynnwyd sylw atynt. Mae’n bosibl ei fod yn dymuno ymhelaethu ar hynny yn ei ymateb. Yn allweddol, nid yw’n rhwymo Llywodraeth Cymru i lunio’r cynllun wrth gefn ar gyfer rheoli priffyrdd y gofynasom amdano, a hoffwn ofyn iddo ailystyried yr angen am hwn.
Gan symud ymlaen at yr ymateb i argymhelliad 6, mae pawb ohonom yn cydnabod bod nifer o agweddau ar ymadawiad y DU â’r UE yn faterion nad ydynt i’w penderfynu gan Lywodraeth Cymru, na’r sefydliad hwn o ran hynny. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ein rhwystro rhag cynllunio ar gyfer pob senario. Wrth dynnu sylw at ein porthladdoedd, roeddem wedi gobeithio tynnu sylw Llywodraeth Cymru at faterion sydd angen eu hystyried. Ac rydym yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, felly, yn rhoi ymrwymiad pellach yn ei ymateb i ymgymryd â’r gwaith manwl o gynllunio senario y buasem yn hoffi ei weld, yn enwedig gan fy mod yn clywed mwy a mwy gan Lywodraeth y DU eu bod yn awr yn cynllunio ar gyfer Brexit ‘dim bargen’. Rwy’n credu, felly, bod angen i ni fod yn cynllunio’n weithredol yn awr.
Pan aethom ati i edrych ar borthladdoedd Cymru, roedd yn amlwg i ni y byddai angen i ni ofyn am dystiolaeth gan ein cymydog agosaf, ac i’r perwyl hwnnw roeddwn wrth fy modd yn mynd i Ddulyn ar ymweliad rapporteur. Roedd y cynrychiolwyr Gwyddelig y cyfarfuom â hwy yn falch iawn o gyfarfod â ni, a chredaf fod honno’n agwedd bwysig—roeddent yn awyddus i ymgysylltu. Roedd yn amlwg, fel y dywedodd rhywun yn ein hymchwiliad, fod ein holl borthladdoedd fferi yn pwyntio tuag at Iwerddon. Felly, roedd yn destun pryder mawr i ni nad oedd Ysgrifennydd y Cabinet wedi ceisio trefnu cyfarfodydd gyda’i swyddogion cyfatebol yn Iwerddon ar y pryd, ond fe glywsom pan ymwelodd â ni yn y pwyllgor ei fod yn gwneud trefniadau i wneud hynny. Buaswn yn falch o glywed a yw wedi gwneud hynny bellach.
Mae’r cloc yn tician ar y trafodaethau hyn ac os ydym am ddiogelu buddiannau Cymru, mae’n rhaid i ni ymgysylltu’n rhagweithiol â’n cyfeillion a’n cynghreiriaid ar draws Ewrop, a chan yr holl Weinidogion nid y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn unig. Fel y dywedais, roedd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn awgrymu ei fod wedi cael trafodaethau gweinidogol gyda’i swyddog cyfatebol yn Iwerddon. Buaswn yn ddiolchgar am fwy o fanylion mewn perthynas â hynny, a sut y mae’n bwriadu bwrw ymlaen â’r rheini o bosibl.
Gan edrych tua’r dyfodol, mae ein hargymhelliad olaf yn canolbwyntio ar y syniad o borthladdoedd rhydd, sef ardaloedd lle nad yw tollau mewnforio, TAW a thaliadau mewnforio eraill yn berthnasol, neu ble y gall mewnforwyr neu allforwyr ohirio taliadau o’r fath. Mae’n gysyniad nad oes digon o ymchwil wedi’i wneud yn ei gylch yng Nghymru. Nid ydym wedi bod eu hangen o reidrwydd, ond efallai fod gennym gyfle yn awr i edrych ar y cyfleoedd y bydd Brexit yn eu cynnig o ganlyniad i hynny. Mae argymhelliad 8 yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar y cyfleoedd hyn a gweld a all dynodiad porthladdoedd rhydd yng Nghymru fod yn effeithiol ac yn ddefnyddiol. Rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i weithio gyda’r sector i gyflawni hyn.
Cadeirydd, mae ein hadroddiad yn paentio darlun sobreiddiol. Mae’n gwbl hanfodol ein bod yn cael hyn yn iawn ac yn cadw Cymru a masnach Cymru i symud ar ôl Brexit. Os nad yw ein hofnau gwaethaf ynghylch oedi hir yn ein porthladdoedd yn amharu ar y cadwyni cyflenwi a thagfeydd ar ein ffyrdd i ddod yn realiti, bydd angen inni weld camau’n cael eu cymryd yn awr ac yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod. Tua 15 mis yn unig sydd gennym cyn i ni adael yr UE. Cadeirydd, rwy’n argymell yr adroddiad hwn i’r Cynulliad Cenedlaethol, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma.