Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 11 Hydref 2017.
Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn i ni ar bwyllgor materion allanol y Cynulliad hwn fod yn realistig o ran i ba raddau yr ydym yn debygol o allu dylanwadu ar y drafodaeth Brexit. Gyda hyn mewn golwg, rwy’n credu ei bod yn gwneud synnwyr inni ganolbwyntio ar feysydd lle y gallwn daflu goleuni ar yr hyn y bydd Brexit yn ei olygu i Gymru lle y mae Llywodraeth y DU yn annhebygol o ganolbwyntio. Rwy’n cynrychioli etholaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru, lle y gallwn ymfalchïo yn rhai o’r porthladdoedd mwyaf rhagorol yn y Deyrnas Unedig. Mae ein perthynas ag Iwerddon, un o’r marchnadoedd allforio mwyaf, yn hollbwysig, ac roeddem yn ofni y byddai Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ei holl sylw ar oblygiadau Brexit i brif borthladdoedd de-ddwyrain Lloegr. Felly, mae’n hanfodol cael dealltwriaeth go iawn o beth fyddai Brexit caled yn ei olygu i borthladdoedd yng Nghymru. Y ffaith amdani yw bod lorïau sy’n mynd yn ôl ac ymlaen i’r UE drwy Dover yn cymryd tua dwy funud i’w prosesu. Nawr, os ydych yn gyrru lori o’r tu allan i’r UE i mewn i’r DU neu ohoni, mae’n cymryd tua 20 munud i’w phrosesu. Felly, ceir problemau ymarferol a logistaidd yn deillio o ffin galed ag Iwerddon, a fyddai’n achosi tarfu mawr yn ein porthladdoedd lle y mae tir ar gyfer ehangu er mwyn parcio lorïau’n gyfyngedig iawn.
Nawr, mae’r trafodaethau yn yr UE wedi dod i stop ar gam cynnar iawn, ac un o’r rhesymau dros hyn yw ein bod mor bell o sefyllfa lle y gallwn ddod o hyd i ateb i’r sefyllfa gyda ffin Iwerddon. Mae Llywodraeth y DU yn dal i lynu at ryw gred y bydd hi’n bosibl i ffin Gogledd Iwerddon fod yn ffin allanol yr UE—ffin galed—ac eto maent yn credu o ddifrif fod hyn yn mynd i fod yn bosibl heb unrhyw angen am wiriadau tollau.
Nawr, mae’n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn meddwl bod technoleg yn mynd i roi’r holl atebion i’r cwestiynau ynglŷn â threfniadau ffiniau’r UE, ond dywedodd tyst ar ôl tyst wrthym y byddai’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â datblygu datrysiad technolegol yn golygu y byddai angen i ni integreiddio’r gweithdrefnau CThEM yn Iwerddon a’r DU yn system dollau gwbl integredig, ac nid oes unrhyw ffordd y gellir gwneud hynny mewn pryd pe baem yn dod allan o’r UE yn ddisymwth, fel sy’n ymddangos yn fwyfwy tebygol. Nawr, nid oes angen i mi atgoffa’r Siambr am hanes affwysol o wael Llywodraeth y DU o ran datrysiadau TG uwch-dechnoleg mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus.
Nawr, un wlad arall yn unig sy’n bryderus iawn ynglŷn â Brexit, sef Gweriniaeth Iwerddon. Wrth ymdrin â chynrychiolwyr o’r Weriniaeth, roedd yn amlwg fod eu ffocws wedi bod i raddau helaeth ar ddatrys y problemau’n ymwneud â’r ffin â Gogledd Iwerddon ac nad oeddynt wedi meddwl cymaint pa effaith y byddai ffin feddal â Gogledd Iwerddon, lle y gallai lorïau deithio drwodd yn ddilyffethair, yn ei chael ar fasnach uniongyrchol rhwng y Weriniaeth a’r DU drwy Gymru, a allai, o bosibl, olygu oedi sylweddol o ran amser a gwaith papur. Clywsom nad oedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi cyfarfod â’i swyddog cyfatebol yn Iwerddon, a byddai’n dda clywed, fel yr awgrymodd y Cadeirydd, a yw’r cyfarfod hwnnw wedi cael ei gynnal.
Nawr, yr wythnos hon, nododd Llywodraeth y DU ei gweledigaeth ar gyfer polisi masnach a thollau ar ôl gadael yr UE, ac mae’n debyg fod yn rhaid iddynt roi rhywbeth i Liam Fox ei wneud. Ar hyn o bryd, ceir 50 o gytundebau masnach rhwng yr UE a gwledydd o gwmpas y byd. Tra byddwn yn dal i fod yn aelodau o’r UE, ni allwn wneud ein cytundebau masnach ein hunain. Mae Llywodraeth y DU â’i phen yn y cymylau, a Mr Hamilton hefyd, os ydynt yn credu ein bod yn mynd i ddod yn agos at efelychu’r cytundebau masnach yr ydym yn eu mwynhau ar hyn o bryd gyda’r UE. A dyna un o’r rhesymau pam y credaf y buasai’n gwbl wallgof inni adael yr undeb tollau. Dywedodd tyst ar ôl tyst wrthym y gallai ffin galed gydag Iwerddon gael effaith negyddol sylweddol ar ein porthladdoedd yng Nghymru, yn enwedig os oes ffin feddal â Gogledd Iwerddon.
Os yw hyn yn digwydd, rwyf am wneud yn siŵr fod y bai am unrhyw effaith negyddol yn union lle y dylai fod: ar y gwleidyddion a’r pleidiau gwleidyddol sy’n gwthio ac yn pleidleisio o blaid gweld y DU yn gadael yr undeb tollau. A hoffwn ei gwneud yn glir y byddaf fi a’r Blaid Lafur yn lleol yn gwylio Stephen Crabb AS a Simon Hart AS yn Sir Benfro yn arbennig, a’r ffordd y maent yn pleidleisio yn y Senedd ar y mater hwn, a byddwn yn eu dwyn i gyfrif yn bersonol am unrhyw swyddi a gollir, neu oedi, neu effeithiau negyddol ar borthladdoedd yn Aberdaugleddau neu Abergwaun o ganlyniad i adael yr undeb tollau. Mae eu pleidleisiau’n bwysig iawn pan fo gan y Llywodraeth Dorïaidd fwyafrif mor fach, a byddwn ni a phobl Sir Benfro yn ffurfio barn ynglŷn ag a fyddant yn rhoi anghenion eu sir yn gyntaf neu anghenion eu plaid.