6. 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y Goblygiadau i Borthladdoedd Cymru o Adael yr Undeb Ewropeaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:57, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, ceisiaf gadw at yr adroddiad, sy’n nodi bod pryderon ynglŷn â goblygiadau Brexit i borthladdoedd Cymru yn canolbwyntio ar dri maes: y bydd ffin feddal rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn dadleoli traffig o borthladdoedd Cymru i’r rhai yn Lloegr a’r Alban drwy Ogledd Iwerddon; y bydd unrhyw drefniadau tollau newydd yn creu heriau o ran technoleg a logisteg i’n porthladdoedd; a bod llawer o borthladdoedd Cymru heb gapasiti i ddarparu ar gyfer unrhyw reolaethau ffiniau a gwiriadau tollau newydd.

Fel y mae ymateb Llywodraeth Cymru i’n hadroddiad yn datgan:

‘Ar hyn o bryd mae dros 70 y cant o’r cargo rhwng Iwerddon, Prydain Fawr a’r UE yn pasio trwy borthladdoedd Cymru.’

Mae’n ychwanegu:

‘Os na chynhelir archwiliadau tollau ar ynys Iwerddon ond eu bod yn cael eu cynnal ym mhorthladdoedd tir mawr y DU, gallai hynny fod yn sbardun i gludwyr nwyddau symud eu cargo trwy ffin dir Iwerddon ac i’r DU o Ogledd Iwerddon—gan ddefnyddio Lerpwl a/neu’r Alban fel y “bont dir” yn hytrach na Chymru.’

Felly, mae’n peri pryder nad yw Llywodraeth Cymru ond yn derbyn mewn egwyddor ein hargymhelliad y dylai ofyn am eglurhad gan Lywodraeth y DU ar yr amserlenni a ragwelir ar gyfer datblygu a gweithredu trefniadau tollau TG newydd arfaethedig a nodi sut y mae’n disgwyl i gostau’r trefniadau newydd hyn gael eu talu.

Rhybuddiodd Stena Line Ports fod Caergybi’n gyfyngedig o ran gofod ac na fyddai ganddo’r capasiti i stopio cerbydau. Mae’n destun pryder hefyd felly nad yw Llywodraeth Cymru ond yn derbyn mewn egwyddor ein hargymhelliad y dylai nodi sut y mae’n bwriadu mynd i’r afael â’r diffyg capasiti ffisegol i ddarparu ar gyfer ffiniau newydd a gwiriadau tollau ym mhorthladdoedd Cymru.

Yn 2015, aeth 50 y cant o’r dros 750,000 o lorïau a gludwyd ar hyd y coridor canolog i Ddulyn drwy Gaergybi. Ar ôl Dover, Caergybi yw’r porthladd fferïau rolio ar ac oddi ar longau mwyaf ond un yn y DU, fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, gyda model busnes yn dibynnu ar y polisi porthladdoedd agored. Gan efelychu’r dull cyfrifol sy’n cael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Iwerddon, dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud paratoadau manwl yn awr i sicrhau na fydd unrhyw drefniadau newydd yn arwain at ddadleoli traffig o borthladdoedd Cymru, a Chaergybi’n bennaf.

Fel gwrthgyffur yn erbyn peth o’r darogan gwae a glywyd o’r blaen, ac a glywyd yn fwy diweddar yn y Siambr hon efallai, gadewch inni felly ystyried peth o’r dystiolaeth a welodd y pwyllgor. Canfu arolwg yn 2017 gan Gymdeithas Allforwyr Iwerddon o’i haelodau fod 94 y cant yn gwneud busnes gyda’r DU, neu’n allforio i’r DU, a bod 67 y cant yn gwneud defnydd o bont dir y DU i gael mynediad at farchnadoedd cyfandirol. Dywedodd Gweinidog cyllid Iwerddon wrth bwyllgor seneddol Gwyddelig yn gynharach eleni,

Ni allaf weld sut na fyddai hynny’n cael ei gynnal oherwydd os edrychwn ar y sefyllfa yn yr Eidal lle y mae miloedd o lorïau’n gyrru drwy’r Swistir bob dydd i’r ddau gyfeiriad gan gario nwyddau a gwasanaethau o’r Eidal i’r Almaen a Ffrainc ac yn y blaen ac mae ganddynt drefniant lle y caiff y lori ei selio fel nad oes raid ei harchwilio’n ffisegol a cheir trefniadau cyfreithiol sy’n berthnasol.

Ar ôl cynnal gwaith modelu manwl, yn wahanol i Lywodraeth Cymru, dywedodd Swyddfa Datblygu Morol Iwerddon wrthym na fyddai Brexit yn cau pont dir y DU sy’n cynnig 18 awr o fantais i farchnadoedd cyfandirol. Ddydd Iau diwethaf, dywedodd pennaeth masnach llysgenhadaeth Canada ym Mrwsel wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau fod 70 y cant o’u masnach gyda’r Unol Daleithiau yn cael ei gludo gan lorïau ar draws ychydig o fannau croesi ar y ffin, a bod rhaglenni cliriadau diogelwch ar gyfer lorïau a gyrwyr, ynghyd â rhaglen e-manifest ar gyfer nwyddau, yn system effeithlon a chyflym iawn.

Dywedodd Gweinidog trafnidiaeth Iwerddon wrthym y dylai mater yr ardal deithio gyffredin gael ei ddatrys heb unrhyw broblem go iawn a dywedodd Adran Materion Tramor a Masnach Iwerddon wrthym y gallwch adael yr undeb tollau a pharhau i gael trefniadau tollau wedyn.

Yn ei hymateb, nid yw Llywodraeth Cymru ond yn datgan ei bod yn ceisio lliniaru’r risg i fusnesau Cymru o ddiffyg parodrwydd drwy weithio gyda Chyllid a Thollau EM. Ond dywedodd Irish Ferries wrthym y byddai datrysiad TG yn allweddol a bod trafodaethau gyda Chyllid a Thollau EM a’r sector eisoes ar y gweill. Efallai fod hyn yn esbonio pam yr oedd rhaid i’r pwyllgor argymell y dylai Llywodraeth Cymru fynd i’r afael ar frys â’r diffyg ymgysylltiad rhyngddi a swyddogion cyfatebol yn Iwerddon ac aelod-wladwriaethau eraill yr UE, ar ôl clywed bod Iwerddon wedi cael dros 400 o gyfarfodydd yn ymwneud â Brexit ar draws Ewrop, ond cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet yma nad oedd wedi cyfarfod â’r cydweithwyr cyfatebol yn Llywodraeth Iwerddon hyd yn hyn i drafod goblygiadau Brexit i gysylltiadau trafnidiaeth rhwng Cymru ac Iwerddon. Diolch.