Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 11 Hydref 2017.
Ar y TG, fe gofiwch, sawl mis yn ôl, fod Irish Ferries wedi dweud wrthym eu bod, ymysg eraill, yn trafod â Chyllid a Thollau EM ynglŷn â datrysiadau TG. Oni fyddech chi, fel fi, yn gobeithio, erbyn hyn, y byddai Llywodraeth Cymru wedi ymwneud â hyn er mwyn sefydlu pa ddatrysiadau TG oedd yn cael eu hystyried gan Gyllid a Thollau EM, fel y corff a fydd yn penderfynu ar hyn yn y pen draw?