Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 11 Hydref 2017.
Diolch. Dyma gyfle arall eto i ni drafod diwygio ardrethi busnes. Hynny yw, nid fi yw’r unig un, rwy’n siŵr, yn y Siambr hon, i gael fy nharo gan dswnami o déjà vu. Mae’n ymddangos ein bod yn dragwyddol yn y lle hwn yn dychwelyd yn gyson at y pwnc, ac am reswm da, mewn gwirionedd. Mae hon yn dreth anachronistig a ddifrïwyd. Mae hi ychydig fel y dreth ar ffenestri, a gafodd ei diddymu yn 1851, ond mae hon yn un sy’n dal i fod gyda ni. Ac am yr holl resymau y cyfeiriodd Caroline Jones atynt ac y cytunodd Nick Ramsay â hwy, mae’n hen bryd inni nid yn unig ddiwygio ar yr ymylon, ond edrych ar ffordd hollol wahanol o ymdrin ag ardrethi busnes. Oherwydd, wrth inni symud i sefyllfa lle y mae busnesau ffisegol, a elwir hefyd yn siopau, yn y sector manwerthu yn arbennig yn wynebu heriau enfawr wrth i ni symud ar-lein, rydym yn llwytho cost ychwanegol ar y sector hwn, sy’n anghynaliadwy, ac mae’r canlyniadau y cyfeiriodd Nick Ramsay atynt yno i’w gweld ym mhob un o’n canol trefi.
Mae ein gwelliant yn nodi’r polisi yr ymladdasom yr etholiad arno. Hynny yw, mae’n mynd i gyfeiriad tebyg. Roeddem yn awgrymu diddymu ardrethi busnes i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o lai na £10,000 y flwyddyn a rhyddhad sy’n lleihau’n raddol hyd at £20,000. Rydym yn anghytuno ar rai o’r manylion, ond rwy’n meddwl bod yr egwyddor yn glir. Roeddem hefyd yn cynnig eithrio busnesau yn ystod eu blwyddyn gyntaf o fasnachu er mwyn annog dechrau busnesau newydd, cyflwyno lluosydd hollt ar gyfer busnesau bach a mawr fel yn yr Alban ac yn Lloegr. Ond dyma’r un go iawn, dyma’r wobr go iawn, sef archwilio disodli ardrethi busnes yn gyfan gwbl gan ffurfiau eraill o drethi nad ydynt yn rhwystro cyflogaeth, adfywio canol trefi a buddsoddi mewn gwaith a pheiriannau.
Nawr, mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi ei dogfen ymgynghori. Mae dau ddiwrnod ar ôl, rwy’n meddwl, i bobl sy’n awyddus i leisio barn, ond mae’n ddogfen anhrefnus, siomedig iawn i fod yn onest gyda chi. Un o’r pethau cyntaf y mae’n ei ddweud yw y bydd y cynllun newydd yn cael ei lunio o fewn yr amlen cyllid blynyddol presennol o £110 miliwn. Felly, ble y mae’r cyfle i ddiwygio yno? Roeddent hefyd yn nodi rhai argymhellion i gynyddu’r trothwy ar gyfer rhyddhad, ond maent yn hynod o gymedrol. Hynny yw, yr unig opsiynau dichonadwy, yn ôl y ddogfen ymgynghori, yw codi trothwy’r 100 y cant o ryddhad o £6,000 i £8,000. Briwsion yw’r rhain, mewn gwirionedd, o ran helpu’r sector busnesau bach yng Nghymru. Cynyddu’r trothwy uchaf ar gyfer rhyddhad o £12,000 i £13,000—wel, mae hynny’n mynd i greu effaith drawsnewidiol ar ein sector busnes yng Nghymru. Ac, arhoswch amdano, o bosibl—mae’n llawn o iaith amodol—codi’r trothwy isaf i £8,000 a’r trothwy uchaf i £13,000. Wel, dyna’r broblem, ynte? Dyna’r diffyg uchelgais o ran diwygio ardrethi busnes ac o ran polisi economaidd yn gyffredinol gan y Llywodraeth hon.
Nid oes sôn o gwbl yn nogfen ymgynghori Llywodraeth Lafur Cymru ei hun am newid o fynegeio yn ôl y mynegai prisiau manwerthu i’r mynegai prisiau defnyddwyr. Dyna oedd yn eu maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar lefel y DU mewn gwirionedd. Dim sôn am eithrio buddsoddiad newydd mewn offer a pheiriannau. Rwy’n cofio John McDonnell yn canmol hwnnw fel polisi radical a oedd yn mynd i wneud gwahaniaeth i fusnesau ar draws y tir—Lloegr, wrth gwrs. Unwaith eto, enghraifft o wneud a dweud un peth pan fo’n gyfleus iddynt yn wleidyddol dros y ffin, ac yn yr un rhan o’r Deyrnas Unedig lle y maent yn Llywodraeth mewn gwirionedd, nid ydynt yn gweithredu eu polisi eu hunain. Nid ydym yn synnu, ydym ni, ond yn sicr, rwy’n meddwl bod gennym hawl i fod yn hynod siomedig ynghylch diffyg arweiniad y Llywodraeth. Mae angen meddwl yn radical. Yn sicr nid yw wedi ei gynnwys o fewn cwmpas y datganiad o uchelgais pathetig o isel a gawsom gan y Llywodraeth mewn perthynas â’u hymgynghoriad. Dylem fod yn edrych ar arwain gweddill y DU ar ddileu’r dreth hen ffasiwn hon a chreu llwyfan y gall ein busnesau ffynnu arno.