Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 17 Hydref 2017.
Unwaith eto, mae’n rhaid i mi atgoffa'r Aelod nad yw'r rhain yn faterion i Lywodraeth Cymru; materion i Lywodraeth y DU ydyn nhw. Nid wyf yn anghytuno â'r hyn a ddywedodd, a dweud y gwir. Mae'n arwydd o gyni cyllidol bod y gwasanaeth heddlu o dan gymaint o bwysau, ond cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hynny. Rydym ni wedi ei gwneud yn eglur iawn y byddem ni’n dymuno gweld plismona’n cael ei ddatganoli gyda throsglwyddiad cyllideb priodol, a byddem yn gweithredu’n well dros ein swyddogion heddlu.