1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 17 Hydref 2017.
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi recriwtio swyddogion yr heddlu yng Nghymru? (OAQ51187)
Wel, nid yw plismona wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru, felly nid ydym yn cymryd unrhyw ran yn y gwaith o recriwtio swyddogion yr heddlu. Mater i'r Swyddfa Gartref yw hwnnw.
Diolch, a dyna pam y dewisais i’r gair 'cefnogi'. Dair wythnos yn ôl, mynegais bryder gyda chi a fynegwyd gan y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu a phedwar prif gwnstabl yng Nghymru y gallai eu hanallu i gael mynediad at y £2 filiwn a dalwyd i'r ardoll brentisiaeth arwain at lai o swyddogion yr heddlu, a darpar recriwtiaid yn ddewis ymuno â lluoedd Lloegr yn lle hynny. Cadarnhawyd gennych yn eich ymateb, wrth gwrs, eich bod chi wedi derbyn cyfran o'r ardoll brentisiaeth yn Llywodraeth Cymru, ond
‘ni allwn, yn ddidwyll, gyfrannu at gynlluniau prentisiaeth sydd mewn meysydd nad ydynt wedi eu datganoli'.
Mewn gwirionedd, yng nghyllideb 2017-18 Llywodraeth Cymru, dywedasoch y byddech yn rhoi £0.5 miliwn i gomisiynwyr heddlu a throseddu i sicrhau nad ydynt o dan anfantais o ganlyniad i'r ardoll brentisiaeth. Derbyniwyd £128 miliwn gennych mewn gwirionedd, sy'n cwmpasu'r £90 miliwn a ddilëwyd o’r bloc Barnett, mae'n cwmpasu'r £30 miliwn a dalwyd i mewn i'r ardoll gan gyflogwyr sector cyhoeddus Cymru, a gadawodd ychwanegiad o £8 miliwn uwchlaw'r lefel honno. Pa ymgysylltiad ydych chi’n ei gael felly fel Llywodraeth gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid ynghylch y mater difrifol iawn hwn i sicrhau eich bod chi’n rhoi cymaint o gymorth ag y gallwch, lle y gallwch, yn y maes hwn?
Rydym ni’n cyfarfod yn rheolaidd gyda'r—. Ceir cyfarfodydd gweinidogol rheolaidd, a dweud y gwir, i drafod cyllid a materion eraill. Cofiwch, wrth gwrs, ein bod ni, fel Llywodraeth, yn cefnogi ac yn parhau i gefnogi 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ledled Cymru—mater nad yw wedi ei ddatganoli, ond mae'n fater o ddiogelwch cymunedol yr oeddem ni eisiau ei gymryd o ddifrif, ac mae wedi cael effaith gadarnhaol ar gymaint o gymunedau. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod: ni all sefyll yn y fan yna a dweud na ddylid datganoli plismona ac yna dweud y dylem ni wario arian ar wasanaeth nad yw wedi ei ddatganoli. Pe byddai plismona wedi ei ddatganoli, byddai hwn yn fater i ni. Rydym ni’n dadlau y dylai gael ei ddatganoli, fel pob gwasanaeth brys arall. Mater i Lywodraeth y DU yw ariannu hyfforddiant swyddogion yr heddlu. Fel arall, rhowch y gyllideb i ni, rhowch ddatganoli i ni, a byddwn ni’n ei wneud.
Prif Weinidog, er bod yn rhaid i recriwtio swyddogion yr heddlu barhau i fod yn flaenoriaeth uchel, ni allwn ddiystyru ffactor hynod bwysig arall, sef eu cadw. Mae naw deg y cant o swyddogion Gwent yn dweud nad oes digon o weithwyr, mae 80 y cant yn dweud bod ganddyn nhw derfynau amser na ellir eu cyflawni, ac mae 76 y cant yn dweud na allant fodloni galwadau. Mae hyn i gyd, wrth gwrs, yn arwain at ddiffyg ysbryd ac anfodlonrwydd yn y swydd. A all y Prif Weinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r pwysau hyn ac felly sicrhau bod y gallu i gadw yn fwy cynaliadwy?
Unwaith eto, mae’n rhaid i mi atgoffa'r Aelod nad yw'r rhain yn faterion i Lywodraeth Cymru; materion i Lywodraeth y DU ydyn nhw. Nid wyf yn anghytuno â'r hyn a ddywedodd, a dweud y gwir. Mae'n arwydd o gyni cyllidol bod y gwasanaeth heddlu o dan gymaint o bwysau, ond cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hynny. Rydym ni wedi ei gwneud yn eglur iawn y byddem ni’n dymuno gweld plismona’n cael ei ddatganoli gyda throsglwyddiad cyllideb priodol, a byddem yn gweithredu’n well dros ein swyddogion heddlu.
Prif Weinidog, gwnaeth Llywodraeth Dorïaidd y DU wyriad chwerthinllyd o'i hobsesiwn ideolegol â chyni cyllidol yn ddiweddar pan gyhoeddodd y byddai swyddogion yr heddlu yn cael bonws o 1 y cant wedi ei ariannu o'r cyllidebau presennol. Dywedodd Steve White, cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr y byddai'r cyhoeddiad hwn yn gadael llawer o swyddogion yn ddig ac yn siomedig.
Nid oeddem yn farus o ran yr hyn y gwnaethom ni ofyn amdano, ychwanegodd Mr White. Mae swyddogion wedi bod yn mynd â tua 15 y cant yn llai adref nag yr oedden nhw saith mlynedd yn ôl. Mae'r ffederasiwn wedi gofyn am gynnydd mân o 2.8 y cant i dâl sylfaenol. A wnaiff y Prif Weinidog alw ar Lywodraeth Dorïaidd y DU a'u cefnogwyr yn y Siambr hon i dalu cyflog teg i swyddogion yr heddlu er mwyn sicrhau nad yw recriwtiaid newydd yn cael eu digalonni rhag gwasanaethu eu cymunedau fel swyddogion heddlu?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Rydym ni wedi clywed tystiolaeth ar y meinciau hyn, ac yn wir ar y meinciau gyferbyn, am y ffordd y caiff swyddogion yr heddlu eu trin, ddim yn cael eu cefnogi'n iawn, gwasanaeth yr heddlu ddim yn cael ei ariannu'n iawn, y cwbl o ganlyniad i raglen cyni cyllidol Llywodraeth y DU. Mae'n dangos, pan ddaw i blismona, y bydd y Torïaid yn gwneud tro gwael â’n swyddogion heddlu.