<p>Diogelwch Plant yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 17 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:01, 17 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Byddwch yn ymwybodol, o dan y gyfraith honno, y bu’n rhaid i'r Gweinidog gyhoeddi rhybudd statudol heddiw yn dilyn arolygiad y gwasanaethau cymdeithasol o'r gwasanaethau plant ym Mhowys. Ceir cynnwys annymunol iawn yn yr adroddiad hwnnw, a gyhoeddwyd am hanner dydd heddiw. Os caf ddyfynnu paragraff allweddol i mi:

‘Roedd diffyg asesiad mewn achosion amddiffyn plant, diffyg asesiad ac adolygiad SERAF (fframwaith asesu'r risg o gam-fanteisio’n rhywiol), a oedd yn groes i'r canllawiau statudol, absenoldeb asesiad gofal a lles, a diffyg arolygiaeth gan reolwyr o'r achosion hyn.'

Yna mae'n dod i'r casgliad:

'Mae'r diffyg asesiad...wedi rhoi plant mewn perygl sylweddol.'

Perygl sylweddol. Mae eich Gweinidog wedi rhoi 20 diwrnod i awdurdod lleol Powys lunio cynllun ymyrraeth a gwella, ac mae pobl allanol ar gael, rwy'n deall, i'w helpu i wneud hynny. Ond pa sicrwydd allwch chi ei roi i mi a'r bobl yr wyf yn eu cynrychioli, yn yr 20 diwrnod hynny, y bydd y perygl sylweddol hwn yn cael ei ddileu ac y bydd plant a phobl ifanc Powys yn cael gofal priodol? A beth ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i sicrhau rhywbeth arall sydd yn yr adroddiad hwn sy'n peri pryder mawr i mi, sef y diffyg ymrwymiad gwleidyddol i wasanaethau plant ym Mhowys?