Part of the debate – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 17 Hydref 2017.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Yn wir, yng ngoleuni ailddosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i'r sector cyhoeddus, mae Plaid Geidwadol Cymru yn credu y dylid cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Yn amlwg, byddwn yn rhoi sylw manwl i'r manylion yn y pwyllgor, ond rwy’n credu mai’r farn wleidyddol gyffredinol yw bod yn rhaid datrys y mater hwn. Mewn gwirionedd, rwyf wedi galw am gynnydd mewn adeiladu tai a chynnydd o ran yr uchelgais i adeiladu tai, yn enwedig ar gyfer y sector fforddiadwy, ac wedi gwneud hynny'n glir dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a chroesawaf y Bil hwn, felly, fel ffordd i symleiddio'r broses bresenol a dileu rhwystr sydd bellach wedi'i ddwyn i'n sylw, er mor annisgwyl yw hynny. Byddai unrhyw gyfyngiad a osodir ar allu cymdeithasau tai yng Nghymru i fenthyca yn peryglu gallu'r Llywodraeth i gyflawni ei tharged o 20,000 o dai fforddiadwy, a byddai hynny'n cael effaith niweidiol ar y sefyllfa dai. Felly, mae gwir angen gweithredu yn y fan yma.
Rwyf yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cydweithio'n agos â'r SYG trwy gydol cyfnod y Bil ar ei wahanol gamau. Mewn gwirionedd, byddwn ni, ar ryw adeg yn ystod yr hydref hwn neu ddechrau’r gaeaf, yn clywed yr hyn y mae adolygiad y SYG ar gyfer Lloegr wedi’i benderfynu ac, wrth gwrs, fe ddarllenodd y Gweinidog ddatganiad gan y SYG, ond yn amlwg hyd nes ein bod yn gwybod bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn ddigonol, rwy'n credu y byddem ni i gyd braidd yn nerfus. Felly, rwy'n siŵr y bydd yn bwysig iddo ef a'i adran fonitro cynnydd y Bil hwn yn ofalus.
Rwy'n credu bod y Bil, yn amlwg, yn gorfod bodloni pryderon y SYG, fel bod ailddosbarthiad yn bosibl, gan hefyd ddiogelu buddiannau rhanddeiliaid, yn enwedig tenantiaid. Gwn fod y Gweinidog wedi cyfeirio at hynny yn ei ddatganiad, ac rwyf eisiau sôn am ychydig mwy o fanylion yr wyf yn gobeithio y gallai ef ymateb iddyn nhw nawr, neu pan fyddwn yn trafod yr egwyddorion cyffredinol. Y cyntaf yw dileu'r gofyniad am ganiatâd gwaredu. Nodaf, pan geisiwyd rhoi’r gofyniad hwn yn niben Gorchymyn Caniatâd Cyffredinol (Cymru) 2009, dywedodd y Llywodraeth bryd hynny y gallai cais i Weinidogion Cymru ar gyfer gwaredu gael ei weld fel dull o ddiogelu tenantiaid. Felly, credaf ei bod hi’n rhesymol i ofyn i chi sut y bydden nhw’n cael eu hamddiffyn erbyn hyn os bydd y gofyniad hwnnw ar gyfer y caniatâd gwaredu yn cael ei ddileu.
Yna, os caf droi at bwerau rheoleiddio a gorfodi, mae angen i newid yn y rheoliad sicrhau bod digon o ffydd, rwy’n credu, y bydd benthycwyr a buddsoddwyr yn darparu'r cyllid sy'n hanfodol ar gyfer darparu tai cymdeithasol newydd pan nad yw’r Llywodraeth ganolog yn gallu darparu'r arian ei hun. Amlygwyd y ffactor hwn gan y Cyngor Benthycwyr Morgeisi yn yr ymgynghoriad, a mynegwyd pryderon y byddai’n rhaid i LCC fethu cyn y byddai unrhyw gamau yn cael eu cymryd yn ei erbyn, a gallai hyn niweidio sector ehangach LCC Cymru gan achosi mwy o argraff o risg uchel ymhlith benthycwyr posibl. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog eisoes wedi ystyried yr ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw yn ofalus, ac rwy’n credu y byddai'n ddefnyddiol pe gallem glywed rhai o'i safbwyntiau a'i ymateb iddo.
Ac yna, yn olaf, y pŵer i gyflwyno pŵer newydd i leihau dylanwad awdurdodau lleol dros LCC yng Nghymru. Rwy'n nodi bod cefnogaeth fawr ar gyfer hyn; Rwy'n credu mai dim ond un awdurdod lleol a ddywedodd na allai gefnogi'r bil hwn. Ond unwaith eto, mae hyn wedi bod yn rhywfaint o amddiffyniad ar gyfer tenantiaid—wyddoch chi, efallai, aelodau'r awdurdod lleol o fyrddau cymdeithas tai, ac ati. Felly, sut y cedwir y cydbwysedd i ddiogelu buddiannau tenantiaid? Ond yn gyffredinol, rwy'n siŵr nad oes unrhyw un o'r materion hyn yn anorchfygol. Byddwn yn rhoi sylw manwl i'r agweddau ymarferol, ond byddwn yn cynnig pob cymorth i roi’r ddeddfwriaeth hon ar waith, os bydd hi’n addas i’w diben, i symud ymlaen.