– Senedd Cymru am 2:39 pm ar 17 Hydref 2017.
A’r eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Carl Sargeant.
Diolch, Llywydd, am y cyfle i wneud y datganiad hwn ar y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), a gyflwynais ddoe.
Mae'r Bil hwn yn mynd i'r afael â materion o ganlyniad i benderfyniad dosbarthu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r penderfyniad i newid dosbarth landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gorfforaethau cyhoeddus anariannol i bob pwrpas yn dod â benthyciadau preifat LCC i'r cyfrifon cyhoeddus. Mae'r Bil yn gosod darpariaethau a fydd yn caniatáu i'r SYG adolygu'r penderfyniad hwn er mwyn cynnal y trefniadau ariannu presennol ar gyfer LCC yma yng Nghymru. Mae LCC yng Nghymru yn darparu cyfanswm o oddeutu 141,000 o dai rhent cymdeithasol fforddiadwy ac wedi chwarae rhan hanfodol mewn bodloni targed blaenorol Llywodraeth Cymru o 10,000 o dai fforddiadwy. Ariennir cyfran sylweddol o'u rhaglen ddatblygu trwy fenthyca o’r sector preifat i ategu'r cyllid a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy newydd, y mae cryn angen amdanynt, a hynny yn ystod tymor presennol y Cynulliad. Mae LCC wedi ymrwymo i ddarparu o leiaf 12,500 o'r cartrefi newydd hyn.
Llywydd, ym mis Medi 2016, ailgategoreiddiodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol LCC yn y cyfrifon cenedlaethol fel corfforaethau cyhoeddus anariannol. Gallai’r hyn a ellid ei ystyried yn benderfyniad cyfrifyddu technegol ar yr olwg gyntaf, mewn gwirionedd fod â chanlyniadau difrifol a phellgyrhaeddol. Mae'n golygu y bydd benthyciadau preifat LCC, sydd ar hyn o bryd yn £200 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd neu £1 biliwn dros y cyfnod, yn cael eu dosbarthu fel benthyca net y sector cyhoeddus a’u nodi fel cost yn erbyn cyllidebau Llywodraeth Cymru. Mae effaith penderfyniad y SYG yn sylweddol, ac os na fyddwn yn cyflwyno deddfwriaeth a bod LCC yn parhau i gael eu dosbarthu fel sefydliadau sector cyhoeddus, byddai'n rhaid i’w cyllid ar gyfer adeiladu cartrefi gystadlu â blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru. Byddai'n rhaid i ni naill ai gynyddu gwariant Llywodraeth Cymru ar dai cymdeithasol gan oeddeutu £1 biliwn yn ystod tymor presennol y Cynulliad, gydag effeithiau difrifol ar ein hymrwymiadau gwario presennol, neu dderbyn y byddai LCC yn gallu darparu nifer sylweddol llai o dai fforddiadwy newydd ac ni fydden nhw’n gallu benthyca i fuddsoddi yn y stoc bresennol. Mae benthyca LCC hefyd yn cefnogi'r cyfraniadau cadarnhaol a wnânt i'r cymunedau y maen nhw’n gweithio ynddynt, gan gynnwys hyfforddiant, cyflogaeth, buddiannau cymdeithasol ac economaidd sylweddol yn lleol. Bydd ansicrwydd hefyd i gyllidwyr sydd wedi gwneud ymrwymiadau hirdymor i ariannu sector LCC annibynnol.
Y dewis arall yw cymryd camau i alluogi’r SYG i wrthdroi ei phenderfyniad dosbarthu, a fydd yn cynnal y trefniadau cyllido presennol a dyna pam yr wyf wedi cyflwyno Bil Rheoleiddio’r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Mae’r SYG wedi gwneud penderfyniadau tebyg o ran landlordiaid cymdeithasol mewn rhannau eraill o'r DU. Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi cyflwyno deddfwriaeth gydnaws, ar amserlen sy'n debyg i’n hamserlen ni, tra bod Senedd y DU eisoes wedi pasio deddfwriaeth gyda phwrpas tebyg i gwmpasu Lloegr, gyda rheoliadau cysylltiedig Llywodraeth y DU yn mynd drwy'r broses seneddol ar hyn o bryd. Rwyf wedi gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i sicrhau rhanddirymiad gan Drysorlys ei Mawrhydi tra ein bod yn cyflwyno'r newidiadau deddfwriaethol angenrheidiol neu tra bod y SYG yn ailddosbarthu LCC y tu allan i ffiniau cyfrifyddu y sector cyhoeddus. Mae'r rhanddirymiad ar waith ar gyfer 2017-18, gan sicrhau nad oes unrhyw effaith gyllidebol yn y flwyddyn ariannol hon. Mae Trysorlys EM wedi cadarnhau na fydd Cymru yn cael ei thrin yn llai ffafriol na Lloegr tra bod y ddeddfwriaeth yn cael ei gweithredu'n llawn, fel ag y mae yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae Trysorlys EM, er hynny, yn disgwyl gweld cynnydd wrth gyflwyno deddfwriaeth er mwyn galluogi’r SYG i wrthdroi ei phenderfyniad.
Y rheswm dros benderfyniad y SYG yw bod LCC o dan reolaeth llywodraeth ganolog a lleol, trwy ddarpariaethau a nodir yn Neddf Tai 1996 yn bennaf. Felly, mae cwmpas y Bil wedi'i gyfyngu i ymdrin â'r rheolaethau a nodwyd gan y SYG yn unig a newid dim ond digon arnynt i ddiwallu gofynion y SYG, gan sicrhau bod nod y Bil, gan ganiatáu i’r SYG ailddosbarthu LCC a chynnal trefniadau ariannu presennol, yn cael ei gyflawni. Mae'r Bil yn gwneud darpariaethau sy'n ymwneud â chael gwared ar dir gan LCC yn ogystal â rhai newidiadau cyfansoddiadol a newidiadau i strwythurau LCC, dylanwad awdurdodau lleol ar LCC, a phryd y gall Gweinidogion Cymru ddefnyddio pwerau ynglŷn ag ymholiadau, gorfodi ac ymyrraeth o ran LCC . Rwyf eisiau bod yn glir: ni fydd y Bil yn arwain at sector tai cymdeithasol heb ei reoleiddio. Bydd rheoleiddio cadarn ac effeithiol yn parhau ar ôl i'r newidiadau a gynigir ganddo gael eu gwneud. Bydd Gweinidogion Cymru yn dal i allu gweithredu pan fo hynny'n briodol. Byddwn yn dal i gadw pwerau ymyrryd a gorfodi parhaus ac mae'r Bil yn egluro'r amgylchiadau pryd y gellid defnyddio'r rhain.
Ym mis Rhagfyr 2016, yn rhannol gan ragweld goblygiadau ailddosbarthu y SYG, cyflwynais fframwaith dyfarniad rheoleiddiol a safonau perfformiad newydd. Cyhoeddir dyfarniadau ar lywodraethu LCC, gan gynnwys gwasanaethau landlordiaid a hyfywedd ariannol o leiaf unwaith y flwyddyn, a bydd yn ofynnol i fyrddau LCC gyflwyno datganiad o gydymffurfiad blynyddol yn cadarnhau eu bod yn bodloni'r safonau perfformio. Felly, mae'r fframwaith rheoleiddio yn parhau i fod yn hynod o gadarn.
Trafodwyd y cynigion polisi a fersiwn ddrafft o'r Bil gyda'r SYG, ac mae’r SYG wedi penderfynu, os bydd y Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol ar ei ffurf bresennol, ni fyddai holl ddylanwad y sector cyhoeddus a weithredir trwy’r Llywodraeth ganolog, awdurdodau lleol a bodolaeth cytundebau enwebu, yn golygu rheolaeth o’r sector cyhoeddus. Felly, os caiff y ddeddfwriaeth ei gweithredu fel y'i cyflwynir, bydd y SYG yn gallu ailystyried ei hailddosbarthiad o LCC yma yng Nghymru.
Rydym wedi bod yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys tenantiaid, cyllidwyr, LCC a'u cyrff cynrychioliadol priodol, ers cyn cyhoeddiad y SYG y llynedd. Fe wnaethom hefyd gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion. Mae rhanddeiliaid allweddol yn deall yr angen am y Bil ac yn gyffredinol maen nhw wedi bod yn gefnogol iddo. Yn bwysicach fyth, Llywydd, efallai, mae rhanddeiliaid yn deall yr effaith debygol o beidio â deddfu'r ddeddfwriaeth yr ydym yn ei chynnig drwy'r Bil hwn.
Mae Aelodau'r Cynulliad ar draws y sbectrwm gwleidyddol wedi bod yn glir ynghylch yr angen i ddod o hyd i ateb sy'n galluogi’r SYG i ailddosbarthu LCC yng Nghymru yn ôl i'r sector preifat cyn gynted ag y bo modd. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda'r pwyllgorau ac Aelodau'r Cynulliad wrth inni ystyried y Bil a gwneud y newidiadau angenrheidiol i ddiogelu darpariaeth tai da, fforddiadwy, o safon uchel yma yng Nghymru. Diolch.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Yn wir, yng ngoleuni ailddosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i'r sector cyhoeddus, mae Plaid Geidwadol Cymru yn credu y dylid cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Yn amlwg, byddwn yn rhoi sylw manwl i'r manylion yn y pwyllgor, ond rwy’n credu mai’r farn wleidyddol gyffredinol yw bod yn rhaid datrys y mater hwn. Mewn gwirionedd, rwyf wedi galw am gynnydd mewn adeiladu tai a chynnydd o ran yr uchelgais i adeiladu tai, yn enwedig ar gyfer y sector fforddiadwy, ac wedi gwneud hynny'n glir dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a chroesawaf y Bil hwn, felly, fel ffordd i symleiddio'r broses bresenol a dileu rhwystr sydd bellach wedi'i ddwyn i'n sylw, er mor annisgwyl yw hynny. Byddai unrhyw gyfyngiad a osodir ar allu cymdeithasau tai yng Nghymru i fenthyca yn peryglu gallu'r Llywodraeth i gyflawni ei tharged o 20,000 o dai fforddiadwy, a byddai hynny'n cael effaith niweidiol ar y sefyllfa dai. Felly, mae gwir angen gweithredu yn y fan yma.
Rwyf yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cydweithio'n agos â'r SYG trwy gydol cyfnod y Bil ar ei wahanol gamau. Mewn gwirionedd, byddwn ni, ar ryw adeg yn ystod yr hydref hwn neu ddechrau’r gaeaf, yn clywed yr hyn y mae adolygiad y SYG ar gyfer Lloegr wedi’i benderfynu ac, wrth gwrs, fe ddarllenodd y Gweinidog ddatganiad gan y SYG, ond yn amlwg hyd nes ein bod yn gwybod bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn ddigonol, rwy'n credu y byddem ni i gyd braidd yn nerfus. Felly, rwy'n siŵr y bydd yn bwysig iddo ef a'i adran fonitro cynnydd y Bil hwn yn ofalus.
Rwy'n credu bod y Bil, yn amlwg, yn gorfod bodloni pryderon y SYG, fel bod ailddosbarthiad yn bosibl, gan hefyd ddiogelu buddiannau rhanddeiliaid, yn enwedig tenantiaid. Gwn fod y Gweinidog wedi cyfeirio at hynny yn ei ddatganiad, ac rwyf eisiau sôn am ychydig mwy o fanylion yr wyf yn gobeithio y gallai ef ymateb iddyn nhw nawr, neu pan fyddwn yn trafod yr egwyddorion cyffredinol. Y cyntaf yw dileu'r gofyniad am ganiatâd gwaredu. Nodaf, pan geisiwyd rhoi’r gofyniad hwn yn niben Gorchymyn Caniatâd Cyffredinol (Cymru) 2009, dywedodd y Llywodraeth bryd hynny y gallai cais i Weinidogion Cymru ar gyfer gwaredu gael ei weld fel dull o ddiogelu tenantiaid. Felly, credaf ei bod hi’n rhesymol i ofyn i chi sut y bydden nhw’n cael eu hamddiffyn erbyn hyn os bydd y gofyniad hwnnw ar gyfer y caniatâd gwaredu yn cael ei ddileu.
Yna, os caf droi at bwerau rheoleiddio a gorfodi, mae angen i newid yn y rheoliad sicrhau bod digon o ffydd, rwy’n credu, y bydd benthycwyr a buddsoddwyr yn darparu'r cyllid sy'n hanfodol ar gyfer darparu tai cymdeithasol newydd pan nad yw’r Llywodraeth ganolog yn gallu darparu'r arian ei hun. Amlygwyd y ffactor hwn gan y Cyngor Benthycwyr Morgeisi yn yr ymgynghoriad, a mynegwyd pryderon y byddai’n rhaid i LCC fethu cyn y byddai unrhyw gamau yn cael eu cymryd yn ei erbyn, a gallai hyn niweidio sector ehangach LCC Cymru gan achosi mwy o argraff o risg uchel ymhlith benthycwyr posibl. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog eisoes wedi ystyried yr ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw yn ofalus, ac rwy’n credu y byddai'n ddefnyddiol pe gallem glywed rhai o'i safbwyntiau a'i ymateb iddo.
Ac yna, yn olaf, y pŵer i gyflwyno pŵer newydd i leihau dylanwad awdurdodau lleol dros LCC yng Nghymru. Rwy'n nodi bod cefnogaeth fawr ar gyfer hyn; Rwy'n credu mai dim ond un awdurdod lleol a ddywedodd na allai gefnogi'r bil hwn. Ond unwaith eto, mae hyn wedi bod yn rhywfaint o amddiffyniad ar gyfer tenantiaid—wyddoch chi, efallai, aelodau'r awdurdod lleol o fyrddau cymdeithas tai, ac ati. Felly, sut y cedwir y cydbwysedd i ddiogelu buddiannau tenantiaid? Ond yn gyffredinol, rwy'n siŵr nad oes unrhyw un o'r materion hyn yn anorchfygol. Byddwn yn rhoi sylw manwl i'r agweddau ymarferol, ond byddwn yn cynnig pob cymorth i roi’r ddeddfwriaeth hon ar waith, os bydd hi’n addas i’w diben, i symud ymlaen.
Diolch i David Melding am ei sylwadau, a diolch iddo hefyd am nodi y bydd egwyddorion y Bil yn cael eu cefnogi. Yn gyntaf oll, o ran y ddau gwestiwn a gododd yr Aelod ynghylch tenantiaid a hawliau tenantiaid a gwaredu, nid yw'r ddeddfwriaeth mewn gwirionedd yn effeithio ar yr ymrwymiadau sylfaenol a wnaed i denantiaid trwy ein trosglwyddiadau gwirfoddol ar raddfa fawr, a bydd yn rhaid iddyn nhw gyflawni a chynnal safon ansawdd tai Cymru o hyd, er enghraifft. Rhoddaf fwy o fanylion iddo wrth inni symud trwy’r broses g raffu.
O ran dylanwad cymdeithasau, soniais yn gynharach am y fframwaith dyfarniad rheoleiddiol ac am safonau perfformiad hynny, ac mae hwn yn arf pwerus iawn, sydd o ddiddordeb arbennig i fenthycwyr. Un ohonynt yw Llywodraeth Cymru fel prif fenthyciwr, a hefyd y sector preifat. Mae hyn yn rhywbeth y mae LCC yn awyddus iawn i sicrhau bod ymagwedd gytbwys ato, ac rydym yn awyddus iawn i ddilyn hynny ar y sail ei fod yn cael ei wneud yn iawn a bod craffu ar y cymdeithasau hyn yn cael ei wneud yn iawn. Bydd hyn yn arwain at y gallu i fenthyg yn y tymor hir, sef rhywbeth rwy'n siŵr y bydd LCC yn cadw llygad craff arno fel risg busnes i'w cymdeithas.
Yn olaf, o ran cynrychiolaeth awdurdodau lleol, roedd cynrychiolaeth awdurdod lleol yn sicr yno. Wrth i ni symud ymlaen, mae hon yn drafodaeth a gawn o ran sut y gallwn sicrhau bod y cydbwysedd yn iawn o ran craffu, cynrychiolaeth tenantiaid a deall eu gallu i ddylanwadu ar gymdeithasau tai. Mae'n bwynt pwysig y mae'r Aelod yn ei godi, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef wrth inni ddatblygu’r Bil hwn.
Fel grŵp Plaid Cymru, ein tuedd yw cefnogi ar hyn o bryd, ond, yn debyg i’r cafeatau a gynigiwyd gan David Melding, credaf ei bod yn bwysig i ni weld beth fydd yn digwydd yn ystod y pwyllgor ac i—[Torri ar draws.] Mae ffôn pawb yn canu heddiw. Jiw, jiw.
Yr hyn yr oeddwn i eisiau ei ddweud oedd y byddai'n rhaid inni edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn y pwyllgor o ran y gwelliannau posib y gellid eu cyflwyno.
Hoffwn holi ymhellach ynglŷn â pha un a ydych chi’n fodlon bod yna ddigon o reolaethau ar waith i Lywodraeth Cymru o hyd o dan y newidiadau arfaethedig hyn. Rydych chi’n sôn am y ddogfen fframwaith rheoleiddio ar gyfer cymdeithasau tai sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru, ond, er enghraifft, mae dangosydd perfformiad 2 o ran tenantiaid yn eithaf—. Wel, dim ond un paragraff bach ydyw, ac nid yw'n dweud sut y byddech chi'n dangos ymgysylltiad effeithiol â thenantiaid. Nid yw'n rhoi manylion ynghylch pa ffyrdd priodol sydd ar gael i ymgysylltu â thenantiaid, felly hoffwn wybod sut ydych chi’n bwriadu gwella swyddogaeth tenantiaid os mai dyna'r cyfrwng ar gyfer gwneud hynny ac os nad yw hynny trwy'r ddeddfwriaeth benodol hon.
Gan gyfeirio at y pwynt o ran cynghorwyr, rwy’n credu bod hynny oherwydd na fydd gan y cynghorwyr a fydd ar unrhyw fwrdd penodol, y bleidlais benderfynol ar y bwrdd penodol hwnnw. Roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi ymchwilio i weld a fyddai’n bosibl i grwpiau tenantiaid neu denantiaid gael y swyddogaeth benodol honno, ac felly, efallai na fyddai’n rhaid i chi ei leihau oherwydd na fyddai tenantiaid yn cael eu hystyried yn wleidyddol. Y rheswm pam yr wyf yn credu bod yn rhaid i chi leihau nifer y cynghorwyr yw ei fod yn cael ei ystyried fel rheolaeth y Llywodraeth neu reolaeth wleidyddol. Pe byddai tenantiaid yn cyflawni’r swyddogaeth lefel uwch honno ar fyrddau cymdeithasau tai, a allech chi ei wneud yn y modd hwnnw? A allai hon fod yn ffordd wahanol o ystyried pethau? Nid wyf yn siŵr os ydych chi wedi gwneud yr ymchwil hwnnw. Rwyf ar hanner y memorandwm esboniadol, ond, yn amlwg, ddoe cawsom ni’r memorandwm ac mae gennym ni 134 o dudalennau i'w darllen, felly nid wyf wedi darllen y cyfan eto. Felly, efallai y gallwn ni drafod hynny ymhellach.
Fel y gwyddom, y broblem o ran i hyn fod yn gyhoeddus ar hyn o bryd, yw’r broblem benthyca. Felly, mae hwn yn bwynt ehangach ynghylch pa un a ydych chi wedi trafod gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chynyddu neu newid y cap ar fenthyca gan awdurdodau lleol, o ystyried y ffaith, pe byddai’n parhau yn gyhoeddus, y byddech chi'n benthyca o bwrs y wlad, ac mae gennych chi eisoes gynlluniau ar waith. Felly, a fyddech chi'n gallu apelio i Lywodraeth y DU i newid ei gwrthwynebiad hirsefydlog yn hyn o beth? Ac, os gallwch chi, yna byddaf yn eich llongyfarch.
A allwch chi roi sylw ar y cynnig i ddileu caniatâd gwaredu? Ym mha ffyrdd yr ydych chi'n bwriadu sicrhau y bydd y Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid yn cymryd rhan lawn yn yr ymgynghoriad ar y mater penodol hwnnw?
Pan fydd hyn yn mynd gerbron y pwyllgor, a gawn ni ofyn i’r SYG roi sylw ar unrhyw argymhellion posibl er mwyn ystyried unrhyw welliannau posibl naill ai gan y Llywodraeth neu gan Aelodau unigol o ran yr hyn y mae'r SYG yn ei ystyried sy’n dderbyniol? Hynny yw, ar hyn o bryd, mae'r SYG wedi dweud, y byddent yn fodlon â’r Bil presennol, ond, mewn gwleidyddiaeth, mae gan bobl syniadau gwahanol; mae'n debyg y bydd gwelliannau yn cael eu cyflwyno. Sut y byddwn ni’n gwybod yn ystod y broses honno bod y SYG yn hapus â hynny, oherwydd, wrth gwrs, rydych chi wedi cyflwyno Bil, ond dim ond wedi cael ymateb iddo fel y mae ar hyn o bryd? Pan ein bod wedi trafod hyn o'r blaen yn y pwyllgor addysg yn y Cynulliad blaenorol, pan wnaethom ailddosbarthu addysg bellach ac addysg uwch, fe gawsom gyfarfod briffio preifat gyda’r SYG, ond ni roddwyd unrhyw beth ar gofnod. Ond, mewn gwirionedd, rwy'n credu, mae’n rhaid inni fod mor agored ac atebol â phosibl—felly a all y SYG roi i'r pwyllgor sy’n ymdrin â'r mater y math hwnnw o hyblygrwydd a bod yn agored i drafod pa un a fyddai gwelliannau posibl yn ddibwrpas neu a fyddai modd iddyn nhw eu hystyried yn briodol.
Yn y pen draw, rydym ni’n awyddus i adeiladu mwy o dai cymdeithasol, ac os yw newid hyn yn golygu bod hynny'n digwydd, yna, wrth gwrs, rydym ni’n credu y byddwn yn gallu ei gefnogi. Ond rwy'n credu ei fod yn ymwneud â manylion yr hyn a gynigir a sut yr ydym yn sicrhau bod hawliau tenantiaid wrth wraidd hyn i gyd.
Cyn imi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb, a gaf i ofyn i bawb ddiffodd eu ffonau?
Diolch, Llywydd. Unwaith eto, rwyf yn ddiolchgar am yr awgrym bod yr Aelod yn cefnogi pasio’r Bil mewn egwyddor, yn amodol ar y manylion a nodwyd. Rwy'n credu bod y pwynt olaf yr Aelod yn un o'r rhai pwysicaf a gododd, o ran y ffaith bod y goblygiadau o beidio â gwneud hyn yn effeithio’n sylweddol ar allu’r LCC neu'r Llywodraeth i ateb y galw am dai cymdeithasol. Mae'r manylion eraill yn bwysig, ond mae’r egwyddor bod y Bil yn cael ei basio yn seiliedig ar gytundeb yr SYG ac ar gytundeb y Trysorlys am gyfnod penodol. Fel arall, mae'r risgiau i'n sector yn enfawr.
O ran rhai o'r manylion y mae'r Aelod yn eu codi, rhywbeth y byddaf yn rhoi mwy o ystyriaeth iddo wrth i’r broses o gyflwyno’r Bil fynd yn ei flaen, yw’r mater o sicrhau y ceir cynrychiolaeth briodol. Fe wnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil, ac roedd yr ymatebion, fel y dywedodd yr Aelod, yn gefnogol ar y cyfan.
Mae cwmpas y Bil wedi bod yn gyfyngedig iawn, yn debyg i’r hyn a gyflwynwyd yn Lloegr a'r Alban ynglŷn â hyn. Dim ond at ddiben technegol, a dyna beth y mae’r memorandwm esboniadol—. Ymddiheuraf mai dim ond y ddoe y derbyniodd yr Aelod hwnnw. Dyna'r broses seneddol, ond rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ei ddarllen. Y gwir amdani yw, mewn gwirionedd, gan mai Bil bach iawn ydyw, y dylem fod yn ddiolchgar oherwydd byddai'r memorandwm esboniadol yn llawer hwy. Felly, yr hyn rwy'n bwriadu ei wneud o ran natur dechnegol y Bil hwn yw gweithio gyda phartïon i sicrhau y gallwn ni basio hwn cyn gynted ag y bo modd, gan ein galluogi ni, fel yr ydym ni a chithau wedi’i ddweud, i ddarparu mwy o gartrefi ar gyfer landlordiaid cymdeithasol, fforddiadwy ledled Cymru.
Croesawaf y ddeddfwriaeth hon gan y bydd yn sicr yn ei gwneud hi'n haws i landlordiaid cymdeithasol—landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, megis United Welsh, sydd wedi'i lleoli yn fy etholaeth i—i gyflawni targed tai fforddiadwy Llywodraeth Cymru. Os oes un peth sydd ei angen arnom yng Nghymru ac yn fy etholaeth i, ac yn y Cymoedd gogleddol ac mewn mannau priodol, tai fforddiadwy yw hwnnw. Rwyf hefyd, mae'n werth nodi, wedi cwrdd yn ddiweddar â fforwm landlordiaid preifat Caerffili, ac maent hwythau hefyd yn awyddus i weld bod anheddau preifat ar raddfa fechan ar gael ac yn fforddiadwy. Fe wnaethon nhw ganfod bod polisi Llywodraeth y DU ar ostyngiad yn y dreth a chredyd cynhwysol wedi niweidio eu gallu i ddarparu tai fforddiadwy, ac mewn gwirionedd wedi niweidio'r stoc tai fforddiadwy ar draul cymunedau'r Cymoedd.
Materion eraill y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod hwnnw oedd yr angen am unedau tai fforddiadwy llai, gydag un neu ddwy ystafell wely. Dyma'r tai y mae eu hangen yn y cymunedau yr wyf i’n eu cynrychioli, ac rwyf wedi codi, yn y Siambr hon yn arbennig, y gwahaniaeth rhwng yr angen am dai, pan nad yw pobl yn gallu ymuno â’r ysgol dai neu hyd yn oed fforddio cartrefi, a’r galw am dai. Nid yw'r rhai sydd mewn angen yn aml yn cyrraedd cydnabyddiaeth ar y gromlin galw. Yn fy marn i, mae pwyslais y polisi cynllunio ar y pwynt olaf yn hytrach na'r un cyntaf, wedi arwain at dwf anghynaladwy o ran ystadau tai uwchraddol ym masn Caerffili, sydd wedi'u hadeiladu ar feysydd glas proffidiol, sy’n rhy ddrud, os caf fentro dweud, i’r mwyafrif o’m hetholwyr. A’r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ceisio'i wneud gyda'r polisi hwn, gyda'r ddeddfwriaeth hon, yw unioni'r anghydbwysedd hwnnw, a sicrhau bod tai mwy fforddiadwy ar gael i'r bobl sy'n byw yng ngogledd fy etholaeth i ac i’r rhai sydd fwyaf eu hangen. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet felly'n cytuno mai dim ond pan fyddwn ni’n mynd i'r afael â'r broblem wirioneddol hon o’r galw am dai, y gallwn ni fod yn nes at greu system fwy cynaliadwy a chyfiawn sy'n darparu cartrefi fforddiadwy i'r rhai sydd eu hangen fwyaf, yn enwedig y rhai yng ngogledd fy etholaeth ?
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gefnogaeth. Mae'r Aelod yn aelod sydd wastad wedi bod â barn ar y polisi cynllunio o ran datblygiadau yn ei etholaeth ei hun. Rwy'n cytuno â'r Aelod bod credyd cynhwysol a chamau gweithredu eraill Llywodraeth y DU wedi niweidio’r sector tai a’i fod yn rhoi tai mewn perygl yn ogystal â ffydd o fewn sectorau. Bydd y Bil hwn i ryw raddau yn unioni’r mater bod gan LCC y gallu i barhau i wneud buddsoddiadau sylweddol yn y mathau o dai y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt o ran fforddiadwyedd neu’r gallu i gael llety priodol ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys yn ei etholaeth ef, sef Caerffili.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw. Wrth gwrs, rydym ni i gyd eisiau hwyluso'r gwaith o adeiladu mwy o dai fforddiadwy, fel y dywedodd Bethan Jenkins yn gynharach. Mae rhai o'r manylion yn y Bil arfaethedig hwn yn ymddangos ychydig yn ddryslyd. Wrth gwrs, nid wyf innau wedi darllen yr holl femorandwm esboniadol ychwaith. Mewn gwirionedd, i fod yn onest, nid wyf hyd yn oed wedi ei ddechrau. Felly, rwyf yn derbyn bod y manylion yn bwysig.
Nawr, mae'r Gweinidog yn nodi bod LCC yn ariannu swm sylweddol o'u gweithgarwch adeiladu drwy fenthyca gan y sector preifat. Mae hyn braidd yn aneglur, gan nad yw'n dweud wrthym pa ganran o gyllid y LCC sy'n deillio o'r sector preifat ac felly pa ganran sy'n dod o'r sector cyhoeddus. Felly, hoffwn ofyn os yw'n bosibl iddo egluro hyn. Fy nealltwriaeth i yw, waeth beth yw manylion technolegol y derminoleg, pe byddai cymdeithas dai yng Nghymru yn mynd i drafferthion ariannol, yna Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, fyddai’n atebol am y ddyled. Felly, a allai'r Gweinidog egluro'r pwynt hwn a pha un a yw hyn mewn gwirionedd yn newid mewn unrhyw ystyr perthnasol o dan ddarpariaethau ei ddeddfwriaeth arfaethedig?
O ran y rhyngweithio gwirioneddol rhwng cymdeithasau tai a'r sector preifat, cawsom newyddion yn ddiweddar, ychydig ddyddiau yn ôl, fod Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn gwneud buddsoddiad sylweddol, felly gwyddom fod cymdeithasau tai yn rhyngweithio’n helaeth gyda'r sector preifat. Pan wnaeth Trivallis, sy'n gweithredu’n bennaf yn ardal Rhondda Cynon Taf, gynnal ei ddatblygiad mawr diwethaf, a oedd yn Aberdâr, gwnaed hynny mewn partneriaeth â Bellerophon, datblygwr preifat. Datblygodd Bellerophon fflatiau preifat ym Mae Caerdydd, a wnaeth wedyn ariannu’r datblygiad tai cymdeithasol yn Aberdâr. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog: ai'r math hwn o fodel ariannu y mae'n credu y dylai'r cymdeithasau tai fod yn ei ddilyn yn y dyfodol?
Gan ddychwelyd at fanylion penodol y ddeddfwriaeth, cael gwared ar dir—fe wnaeth David Melding a Bethan ymdrin â hyn, felly rydym wedi edrych ar hyn. Ymddengys ein bod ni'n symud o sefyllfa lle, pe byddai cymdeithasau tai eisiau gwerthu tir, y byddent angen caniatâd penodol gan Weinidog Cymru, i sefyllfa lle mai dim ond hysbysu’r Gweinidog y byddai angen iddyn nhw ei wneud. Felly, o gofio bod prinder tai mawr yng Nghymru a bod angen i ni annog cymdeithasau tai i ddatblygu'r tir sydd ganddynt, ym mha ffordd y mae’n gwella sefyllfa Llywodraeth Cymru i'w gwneud yn haws iddynt werthu’r tir, ac a oes problem o ran atebolrwydd?
Rydym wedi sôn am y mater o atebolrwydd, ac am y mater o gynrychiolaeth cynghorwyr ar fyrddau'r cymdeithasau tai. Nawr, mae'n ymddangos y gall fod yn broblem os ydych chi am leihau gallu’r cynghorwyr i ddylanwadu ar y cymdeithasau tai ar eu byrddau. Nawr, rwy’n derbyn eich bod chi wedi dweud—ai chi a ddywedodd neu David Melding? Dywedodd rhywun bod y rhan fwyaf o'r cynghorau eu hunain mewn gwirionedd o blaid hyn, felly rwyf wedi nodi hynny. Ond, unwaith eto, bydd problem o ran atebolrwydd. Felly, soniasoch chi eich hun y bydd craffu cryf ar y cymdeithasau tai, felly hoffwn wybod sut y byddai hynny'n gweithio mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu bod Bethan Jenkins wedi gwneud y pwynt da iawn bod hawliau tenantiaid yn hynod bwysig. Ac, os ydych chi'n lleihau dylanwad y cynghorau eu hunain, unwaith eto a yw hi'n bosibl cynyddu dylanwad y tenantiaid? Rwy'n gwybod eich bod wedi dweud y byddwch chi'n edrych ar hynny, felly, os oes gennych chi unrhyw beth arall y gallech chi ei ychwanegu, byddwn yn ddiolchgar.
Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Dechreuodd drwy ddweud bod y Ddeddf yn ddryslyd, ac yna dywedodd nad oedd wedi ei darllen, a oedd yn fwy dryslyd byth, i wneud rhagdybiaeth o’r fath ar y sail honno—. Yn gyntaf oll, holl bwrpas y Bil yw cymryd hyn oddi ar y sector benthyca cyhoeddus oherwydd faint o arian a fenthycir gan gymdeithasau tai. Byddem yn gorwario ein hymrwymiad benthyg yn y Llywodraeth, ac felly byddai'n rhaid i ni gymryd yr arian hwnnw o rywle arall. Byddai'n rhaid i ni wneud penderfyniad i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol a thynnu’r arian oddi wrth iechyd neu sefydliad arall. Felly, mae hon yn broses bwysig iawn, a chanlyniadau gwneud hynny felly yw dadreoleiddio sector. Fodd bynnag, dywedais yn gynharach fod y pwerau fframwaith sydd gennym ar waith yn ein rhoi ni mewn sefyllfa gref iawn o ran dylanwadu ar y LCC o ran sut y mae nhw’n gweithredu.
Rwy'n credu bod yr Aelod, yn ogystal â Bethan Jenkins ac eraill, wedi dweud bod dylanwad y byrddau yn un pwysig, ac yn enwedig cynrychiolaeth tenantiaid. Byddaf yn gweithio gyda chi i sicrhau ein bod yn cael y cymaint o gymorth â phosibl ar gyfer hynny wrth inni ddatblygu’r Bil. Soniodd yr Aelod hefyd am fodelau cyllido penodol, ynghylch Trivallis yn arbennig, a model Bellerophon. Nid oes gennyf unrhyw farn ar ba fodelau ariannol y dylai LCC eu defnyddio, ond yr hyn yr wyf yn ei wybod yw bod eu perthynas bresennol â'r sector preifat yn un dda, ac mae’n rhaid inni gynnal y berthynas honno yn yr hirdymor, fel arall, fel y dywedais yn gynharach, ni fyddwn yn adeiladu 20,000 o gartrefi newydd eraill yng Nghymru.
Byddaf yn rhoi mwy o fanylion i'r Aelod a'r Aelodau wrth i ni symud ymlaen, ond, yn benodol, nid oes gennyf fanylion o ran rhaniad cyllid Llywodraeth Cymru o’i gymharu â chyllid y sector preifat, ond byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelod am hynny yn fy ymateb wrth i ni symud ymlaen. Ond rwy'n gobeithio y gall yr Aelod argyhoeddi ei hun a’i blaid i gefnogi proses y Bil hynod o bwysig hwn wrth inni symud ymlaen.
Rwyf wrth fy modd bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithredu’n brydlon i fynd i'r afael â'r penderfyniad gwirioneddol niweidiol gan y SYG, ac, fel y gwelsom, pasiwyd deddfwriaeth eisoes yn Lloegr i sicrhau y gall cymdeithasau tai barhau i gynnig tai pwysig i bobl na allant fforddio prynu tai eu hunain. Ac yn sicr yn fy etholaeth i, mae cymdeithasau tai megis Cadwyn, Wales and West a United Welsh i gyd wedi darparu tai newydd a thai wedi'u hadnewyddu i bobl sydd wir eu hangen. Felly, er enghraifft, United Welsh: 40 uned un a dwy ystafell wely gyferbyn â charchar Caerdydd, sy'n hanfodol i'r rheini y mae’r dreth ystafell wely yn effeithio arnynt. Mae Cadwyn wedi ailddylunio hen adeilad a oedd wir angen ei adnewyddu ar gyfer pobl sydd angen llety byw â chymorth—mae’n hyfryd; mae’r bensaernïaeth yn wirioneddol wych—ac fe'u hadeiladwyd, ar hen safle garej a oedd wedi bod yn wag am tua 20 mlynedd, 26 o gartrefi newydd ac un uned fasnachol, pob un ohonynt wedi’u cwblhau drwy ddefnyddio safonau pensaernïol uchel iawn, a safonau uchel o ran cynaliadwyedd amgylcheddol—llawer uwch na’r sector preifat, mae’n flin gen i ddweud, sy'n darparu rhai cartrefi newydd yn yr etholaeth. Roeddwn i’n meddwl tybed, pan fydd gennych chi amser, ar ôl mynd trwy’r Bil hwn, a fyddech chi’n gallu codi'r rheoliadau adeiladu fel bod y sector preifat, o leiaf, yn cyrraedd y safonau y mae ein cymdeithasau tai yn eu cyrraedd oherwydd eu bod nhw’n gwybod mai dyma'r peth iawn i'w wneud.
Rwy'n credu—unwaith eto, gan ddiolch i'r Aelod am ei chefnogaeth ar gyfer proses y Bil—fe wnaeth y Prif Weinidog, yn y cwestiynau yn gynharach heddiw, gyfeirio at ansawdd tai cymdeithasol nawr o'i gymharu â 10 neu 15 mlynedd yn ôl. Rydym wedi datblygu'r weithdrefn hon yn dda. Mae'n ymwneud ag adeiladu ar gyfer y dyfodol, ac mae hyn yn rhywbeth a fydd hyn yn ein galluogi i’w wneud, drwy’r datrysiadau medrus a ddarperir gan LCC a bellach rhai awdurdodau lleol yn y sector adeiladu tai cymdeithasol. Mae'n rhywbeth yr hoffwn ei ddilyn, ynghyd â’m cyd-Aelod Lesley Griffiths, fel bod gennym y math gorau o dai ar gyfer y sefyllfaoedd iawn yn y mannau iawn ar gyfer pobl ledled Cymru.