Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 17 Hydref 2017.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw. Wrth gwrs, rydym ni i gyd eisiau hwyluso'r gwaith o adeiladu mwy o dai fforddiadwy, fel y dywedodd Bethan Jenkins yn gynharach. Mae rhai o'r manylion yn y Bil arfaethedig hwn yn ymddangos ychydig yn ddryslyd. Wrth gwrs, nid wyf innau wedi darllen yr holl femorandwm esboniadol ychwaith. Mewn gwirionedd, i fod yn onest, nid wyf hyd yn oed wedi ei ddechrau. Felly, rwyf yn derbyn bod y manylion yn bwysig.
Nawr, mae'r Gweinidog yn nodi bod LCC yn ariannu swm sylweddol o'u gweithgarwch adeiladu drwy fenthyca gan y sector preifat. Mae hyn braidd yn aneglur, gan nad yw'n dweud wrthym pa ganran o gyllid y LCC sy'n deillio o'r sector preifat ac felly pa ganran sy'n dod o'r sector cyhoeddus. Felly, hoffwn ofyn os yw'n bosibl iddo egluro hyn. Fy nealltwriaeth i yw, waeth beth yw manylion technolegol y derminoleg, pe byddai cymdeithas dai yng Nghymru yn mynd i drafferthion ariannol, yna Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, fyddai’n atebol am y ddyled. Felly, a allai'r Gweinidog egluro'r pwynt hwn a pha un a yw hyn mewn gwirionedd yn newid mewn unrhyw ystyr perthnasol o dan ddarpariaethau ei ddeddfwriaeth arfaethedig?
O ran y rhyngweithio gwirioneddol rhwng cymdeithasau tai a'r sector preifat, cawsom newyddion yn ddiweddar, ychydig ddyddiau yn ôl, fod Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn gwneud buddsoddiad sylweddol, felly gwyddom fod cymdeithasau tai yn rhyngweithio’n helaeth gyda'r sector preifat. Pan wnaeth Trivallis, sy'n gweithredu’n bennaf yn ardal Rhondda Cynon Taf, gynnal ei ddatblygiad mawr diwethaf, a oedd yn Aberdâr, gwnaed hynny mewn partneriaeth â Bellerophon, datblygwr preifat. Datblygodd Bellerophon fflatiau preifat ym Mae Caerdydd, a wnaeth wedyn ariannu’r datblygiad tai cymdeithasol yn Aberdâr. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog: ai'r math hwn o fodel ariannu y mae'n credu y dylai'r cymdeithasau tai fod yn ei ddilyn yn y dyfodol?
Gan ddychwelyd at fanylion penodol y ddeddfwriaeth, cael gwared ar dir—fe wnaeth David Melding a Bethan ymdrin â hyn, felly rydym wedi edrych ar hyn. Ymddengys ein bod ni'n symud o sefyllfa lle, pe byddai cymdeithasau tai eisiau gwerthu tir, y byddent angen caniatâd penodol gan Weinidog Cymru, i sefyllfa lle mai dim ond hysbysu’r Gweinidog y byddai angen iddyn nhw ei wneud. Felly, o gofio bod prinder tai mawr yng Nghymru a bod angen i ni annog cymdeithasau tai i ddatblygu'r tir sydd ganddynt, ym mha ffordd y mae’n gwella sefyllfa Llywodraeth Cymru i'w gwneud yn haws iddynt werthu’r tir, ac a oes problem o ran atebolrwydd?
Rydym wedi sôn am y mater o atebolrwydd, ac am y mater o gynrychiolaeth cynghorwyr ar fyrddau'r cymdeithasau tai. Nawr, mae'n ymddangos y gall fod yn broblem os ydych chi am leihau gallu’r cynghorwyr i ddylanwadu ar y cymdeithasau tai ar eu byrddau. Nawr, rwy’n derbyn eich bod chi wedi dweud—ai chi a ddywedodd neu David Melding? Dywedodd rhywun bod y rhan fwyaf o'r cynghorau eu hunain mewn gwirionedd o blaid hyn, felly rwyf wedi nodi hynny. Ond, unwaith eto, bydd problem o ran atebolrwydd. Felly, soniasoch chi eich hun y bydd craffu cryf ar y cymdeithasau tai, felly hoffwn wybod sut y byddai hynny'n gweithio mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu bod Bethan Jenkins wedi gwneud y pwynt da iawn bod hawliau tenantiaid yn hynod bwysig. Ac, os ydych chi'n lleihau dylanwad y cynghorau eu hunain, unwaith eto a yw hi'n bosibl cynyddu dylanwad y tenantiaid? Rwy'n gwybod eich bod wedi dweud y byddwch chi'n edrych ar hynny, felly, os oes gennych chi unrhyw beth arall y gallech chi ei ychwanegu, byddwn yn ddiolchgar.