Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 17 Hydref 2017.
Rwy’n croesawu’r cyfle hwn i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau am ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ac am yr adroddiad y mae wedi ei lunio. Mae'r pwyllgor o'r farn nad oes unrhyw rwystr i'r Cynulliad dderbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol.