Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 17 Hydref 2017.
Diolch yn fawr iawn, Cadeirydd, ac rwy’n diolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy'n credu ei bod hi'n dda iawn inni gael dadl mor adeiladol, ac rwyf innau o’r farn, fel y dywedodd David Melding, ei bod hi’n ardderchog ein bod ni'n drydydd yn y byd gyda’n hailgylchu, ond rwyf i’n awyddus i fod yn gyntaf yn y byd. Rwyf am wneud yn siŵr ein bod ni'n well na'r Almaen a Singapôr. Rydym ni wedi buddsoddi dros £600 miliwn yng ngwasanaethau ailgylchu awdurdodau lleol drwy'r grant rheoli gwastraff cynaliadwy, ac mae'r ffaith ein bod wedi cyrraedd y sefyllfa hon o fod yn drydydd yn y byd wedi digwydd oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag awdurdodau lleol, ond wrth gwrs, fe ddigwyddodd oherwydd bod pobl Cymru mor awyddus i ailgylchu. Eto i gyd, fe wyddom ni fod yna grŵp o bobl y mae’n ymddangos eu bod yn gwrthod gwneud hynny, a dyna un agwedd ar waith y byddwn yn parhau i’w wneud gydag awdurdodau lleol.
Roedd Jenny Rathbone yn sôn am wastraff bwyd, a chredaf ei bod yn gwbl echrydus ein bod yn gwastraffu cymaint o fwyd. Os edrychwn ni ar aelwyd gyfartalog yng Nghymru, maen nhw'n taflu bwyd gwerth £480 y flwyddyn, felly mae hynny'n hafal i £600 miliwn ar draws Cymru benbaladr. Mae angen inni werthfawrogi'r bwyd yr ydym yn ei brynu, a rhaid inni beidio â'i daflu'n anystyriol. Roeddwn yn sôn y byddem ni’n cyflwyno'r targed o haneru gwastraff bwyd yng Nghymru erbyn 2025. Credaf fod hynny'n feiddgar ac yn uchelgeisiol, a chredaf ei fod hefyd yn bragmataidd ac yn realistig, felly byddaf yn ymgynghori yn rhan o’r gwaith o adnewyddu ein strategaeth wastraff yr wyf yn bwriadu ei wneud y flwyddyn nesaf.
Roedd nifer o’r Aelodau yn sôn am gynlluniau dychwelyd ernes, ac rydym wedi cytuno i gynnwys y cynllun peilot hwn yn rhan o’n setliad cyllideb. Rydym wedi neilltuo £0.5 miliwn i wneud hynny. Nid ydym wedi trefnu’r manylion eto. Fel y dywedodd Simon, bydd hynny'n rhan o'r gwaith y byddwn yn ei wneud, a byddaf yn hapus i roi gwybod nid yn unig i David Melding, ond i’r holl Aelodau, yn amlwg, pan fyddwn ni wedi cyflwyno ein syniadau.
Ochr yn ochr â hynny, roeddwn yn sôn fy mod yn gwneud astudiaeth estynedig ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr. Felly, roedd hynny'n rhan o'r cynllun ond rydyn ni nawr am gael peilot yn rhan o’r setliad cyllideb. Rwy'n ymwybodol o alwadau i gyflwyno dychwelyd ernes. Yn blentyn y 1960au, fel Mike Hedges, rwy'n cofio'n dda iawn fel yr oedd hi, ond rwy'n credu ei bod hi'n hollbwysig ein bod yn sicrhau nad oes canlyniadau anffafriol nac anfwriadol o ran gweithredu cynllun o'r fath, oherwydd bod gennym y gwasanaeth ailgylchu gorau yn y DU ac eisoes mae 75 y cant o boteli plastig yng Nghymru yn cael eu hailgylchu. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad ydyw’r canlyniadau anffafriol hynny’n digwydd inni.
Mae'n rhaid inni hefyd ystyried effeithiau ariannol y taliad ar filiau siopa aelwydydd. Gwyddom, er enghraifft, fod llawer iawn o bobl nawr yn siopa ar-lein, felly mae hi'n bwysig iawn ein bod yn sicrhau ein bod ni'n helpu'r bobl hynny nad ydyn nhw’n gallu dychwelyd potel o’r fath yn hawdd i gael ad-daliad mewn siop. Roedd David Melding yn holi am bolystyren. Mae yn bosibl i’w ailgylchu ac rwyf wrthi’n trafod â siopau bwyd a busnesau adnabyddus. Eto, bydd edrych ar ailgylchu polystyren yn rhan o'r astudiaeth gan y Panel Arbenigol ar Reoli Adnoddau.
Os caf i droi at y cynnig, mae’n amlwg fy mod i’n gofyn i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig. Gan edrych ar y gwelliannau, rwy'n derbyn 1, 3, 4 a 5. Rwy’n arbennig o awyddus i ganmol Ceredigion, y sir sy’n ailgylchu fwyaf yng Nghymru, sef 70 y cant. Rwy'n gofyn i'r Aelodau wrthod gwelliant 2 gan fod targed ar gyfer bod yn ddiwastraff wedi'i seilio ar dystiolaeth ar gyfer y garreg filltir honno o 2050 eisoes wedi’i nodi yn ein strategaeth wastraff, 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'. Mae'r targed o 80 y cant a'r targed o 50 y cant y cyfeiriais atyn nhw yn dargedau newydd penodol nad ydyn nhw eisoes yn 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'. Er mwyn cyrraedd y nod hwnnw o fod yn ddiwastraff erbyn 2050 bydd angen ymdrech fawr, a bydd yn rhaid inni gyflwyno mesurau dros dro. Un o'r mesurau dros dro yr ydym wedi edrych arno yw gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu contractau 25 mlynedd ar gyfer adennill ynni na ellir ei ailgylchu.