Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 18 Hydref 2017.
Diolch i Joyce Watson am ei chwestiwn atodol. Nid oes unrhyw amheuaeth fod cronfeydd yr UE wedi bod yn ffynhonnell hanfodol o fuddsoddiad ar gyfer ymchwil a datblygu, nid yn unig yng ngorllewin Cymru, ond yn amlwg, ledled Cymru. Bydd £3 miliwn o gyllid cronfa gymdeithasol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru, yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu cyfleuster newydd y ganolfan filfeddygol yn Aberystwyth, a bydd yn darparu labordai a swyddfeydd modern wedi’u cyfarparu’n llawn. Fe’i defnyddir nid yn unig i hybu iechyd a lles anifeiliaid, ond iechyd pobl hefyd. Ac roeddwn yn falch iawn o allu lansio’r ganolfan filfeddygol dros yr haf yn Sioe Frenhinol Cymru.
O ran yr amserlen ar ei chyfer, yn ôl yr hyn a ddeallaf, y flwyddyn nesaf fydd hynny, yn 2018, ond nid oes gennyf fis penodol, er enghraifft, ond yn sicr, gallaf roi gwybod i’r Aelod.