Y Diwydiant Ffermio

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:32, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae problemau’n bodoli o hyd ar gyfer ffermwyr trawsffiniol, o ganlyniad i ddiffyg ymgysylltu adeiladol, weithiau, rhwng asiantaethau taliadau Cymru a Lloegr. Mewn cyfarfod o’r grŵp trawsbleidiol ar faterion trawsffiniol, a gadeiriais yn gynharach eleni, ymrwymodd prif weithredwyr yr Asiantaeth Taliadau Gwledig a Taliadau Gwledig Cymru i gynnal cyfarfodydd ar y cyd gyda’r undebau ffermio yn rheolaidd er mwyn trafod unrhyw faterion heb eu datrys a hyrwyddo gwell cydweithio. A ydych yn ymwybodol a yw hyn wedi digwydd, a pha baratoadau y gellir eu gwneud i sicrhau na fydd unrhyw oedi cyn gwneud taliadau i ffermwyr trawsffiniol eleni?