Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 18 Hydref 2017.
Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, gan y credaf fod y mwyafrif o’r taliadau hwyr y llynedd yn deillio o’r mater hwn ynghylch ffermydd trawsffiniol a’r diffyg ymgysylltiad, gadewch inni ddweud, gan Taliadau Gwledig Lloegr. Nid wyf yn ymwybodol a gynhaliwyd cyfarfodydd penodol gyda Taliadau Gwledig Cymru a Taliadau Gwledig Lloegr ac undebau’r ffermwyr—mater i undebau’r ffermwyr yw hwnnw—ond yn sicr, gwn fod fy swyddogion wedi bod yn cael cyfarfodydd i sicrhau ein bod, eleni, yn gallu talu cymaint o daliadau cyn gynted â phosibl mewn perthynas â’r taliadau trawsffiniol hynny.