Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 18 Hydref 2017.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Mae rôl cynghorau lleol yn cyflenwi ynni wedi ehangu dros y blynyddoedd diwethaf hefyd, yn amrywio o gwmnïau gwasanaethau ynni, neu gwmnïau cyflenwi ynni, i’r rheini sydd â threfniadau cyflenwi llawnach, fel Robin Hood Energy, wrth gwrs, yn Nottingham, sy’n honni bod eu biliau’n llai, cynnydd mewn effeithlonrwydd ynni ac allyriadau carbon is. Bu datblygiadau hefyd ym Mryste, yng Nghaerlŷr a’r Liverpool Energy Community Company yn Lerpwl. Ymddengys bod y rhan fwyaf o’r twf yn hyn o beth wedi bod dros y ffin. Beth yw ei dadansoddiad o’r rheswm pam nad yw hyn wedi llwyddo yng Nghymru, ac yn sgil ei datganiad diweddar am gynyddu ymwneud lleol mewn prosiectau adnewyddadwy, a yw’n teimlo bod hyn yn rhywbeth yr hoffai ei weld yn tyfu yng Nghymru?