Cynhyrchu a Dosbarthu Ynni

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:35, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Credaf eich bod yn iawn. Mae angen inni weld mwy o waith a chynnydd yn y meysydd hynny. Rwy’n ymwybodol fod nifer o sefydliadau cyhoeddus yn Lloegr a’r Alban wedi cyhoeddi cwmnïau ynni. Mae fy swyddogion wedi cyfarfod â’r sefydliadau hyn fel rhan o’r gwaith a wnaethom pan fuom yn ystyried a ddylem gael cwmni cyflenwi ynni yng Nghymru, ac fe fyddwch yn gwybod am y datganiad a wneuthum ynglŷn â pham nad ydym yn mynd ar drywydd hynny ar hyn o bryd. Rwy’n ymwybodol fod yr Alban wedi cyhoeddi hyn yn ddiweddar, ond ni fyddant yn ei wneud tan 2021. Ond byddaf yn trafod gyda fy swyddogion cyfatebol i weld sut y byddant yn datblygu eu cynigion. Nid wyf wedi cau’r drws yn llwyr ar hyn. Credaf fod angen inni weithio gydag awdurdodau lleol hefyd. Mae angen inni eu cynorthwyo i edrych ar y cyfleoedd a allai fod ar gael a sut y byddent yn cynllunio i ddatblygu’r rheini.