Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 18 Hydref 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r heriau a wynebai cynllun ynni cymunedol Ynni’r Fro oedd yr anhawster i gael caniatâd cynllunio a chydsyniad pan oedd awydd i greu prosiectau ynni cymunedol o’r fath. Sut yr aethoch i’r afael â hyn ar ôl yr adroddiad ar gynllun cymunedol Ynni’r Fro, ac oni fyddai hynny’n un o’r rhesymau allweddol pam na all cymaint o’r prosiectau ynni cymunedol hyn fynd rhagddynt, mewn gwirionedd, oherwydd cyfranogiad cynghorau lleol a’r ymgysylltiad â hwy?