Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 18 Hydref 2017.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, buoch yn sôn am, ac yn wir, pleidleisiodd eich plaid o blaid treth ar blastigau na ellir eu hailddefnyddio ac na ellir eu hailgylchu yng Nghymru. Tybed a allwch roi rhywfaint o eglurhad inni ynghylch manylion ac ymarferoldeb y bwriad hwn a sut y gallech fwrw ymlaen â hynny, neu ai rhyw sicrwydd amwys i Blaid Cymru ydoedd fod ganddynt rywfaint o berthnasedd o hyd ym mhroses Llywodraeth Cymru o wneud penderfyniadau?