Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:42, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Ni fyddwn byth yn ymddwyn felly gyda Phlaid Cymru, David Melding. O ran y dreth ar blastig, cawsom ddadl dda iawn ddoe ynglŷn â’r economi gylchol. Crybwyllais sawl pwynt ynglŷn â’r astudiaeth ddichonoldeb estynedig o gyfrifoldeb cynhyrchwyr sydd ar y gweill gennyf. Siaradodd sawl Aelod am gynllun dychwelyd blaendal, ac yn amlwg, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ar 3 Hydref rwy’n credu, y posibilrwydd, o bedair o’r trethi, y gallai treth ar blastig fod yn un ohonynt. Byddaf yn cael y trafodaethau manwl hynny gyda swyddogion a chydag Ysgrifennydd y Cabinet.