Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 18 Hydref 2017.
Rwy’n cytuno â hynny, ac mae’n bwysig iawn, ond mae’r modd y defnyddir unrhyw dreth yn bwysig hefyd. Fel rwyf wedi’i ddweud eisoes, yn dechnegol, gellir ailddefnyddio cynhwyswyr bwyd polystyren. Credaf fod angen inni fod yn fanwl iawn o ran y camau rydym yn ceisio’u cymryd i sicrhau canlyniadau o ran lleihau llygredd o blastigion. Tybed a fyddech yn agored i gynnig mwy radical, un y byddai’r meinciau Torïaidd hyn yn fwy na pharod i’w gefnogi, os gallwch ddod o hyd i ffordd ymarferol o wneud hynny, sef gwahardd rhai o’r deunyddiau hyn. Dyna y maent yn ei wneud yn yr Unol Daleithiau bellach. Felly, os gallant hwy ei wneud heb ei ystyried yn ymosodiad ofnadwy ar y farchnad rydd, efallai y dylem ninnau ei wneud hefyd. Mae’n llawer symlach i’r cyhoedd ei ddeall hefyd.