Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 18 Hydref 2017.
Rwyf o blaid polisïau radical, felly rwy’n fwy na pharod i edrych ar unrhyw beth a fydd yn ein helpu i leihau sbwriel plastig, yn enwedig. Cafwyd ymgyrch yn ddiweddar ynghylch sbwriel plastig yn ein cefnforoedd, a chredaf fod hynny’n hollol ofnadwy, felly unrhyw beth y gallwn ei wneud i helpu—. Felly, rwy’n fwy na pharod i edrych ar unrhyw bolisi radical, ac os hoffai’r Aelod gyfarfod â mi i’w drafod ymhellach, buaswn yn fwy na pharod i wneud hynny.