Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 18 Hydref 2017.
Dyna ni. Felly, rwy’n edrych ymlaen at hynny’n fawr iawn. Nid wyf yn siŵr fy mod wedi gweld y datganiad i’r wasg y cyfeiriwch ato, ond yn sicr, rwy’n ymgysylltu’n aml ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac rwy’n ymwybodol iawn o’u safbwyntiau ar gyfleoedd yn ogystal â’r heriau sy’n ein hwynebu. Mae fy swyddogion yn gwneud llawer iawn o waith mewn perthynas â fframweithiau, deddfwriaeth bosibl yn ogystal â thrafodaethau gyda’u swyddogion cyfatebol. Felly, gwn fod yr holl uwch swyddogion o’r pedair gwlad wedi cyfarfod yma yng Nghaerdydd ddydd Mercher diwethaf. Fe fyddwch yn gwybod am yr ymgysylltiad gweinidogol rwy’n ei gael. Bellach, mae gennym ddyddiad arall ar gyfer ein cyfarfodydd misol—yn anffodus, ni chawsom un ym mis Hydref—gydag Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ond byddwn yn cyfarfod eto, yn Llundain unwaith eto yn anffodus, ar 6 Tachwedd. Ond mae’n bwysig iawn fod y trafodaethau hynny’n parhau.
O ran amserlen, buaswn yn dychmygu y gallwn ddechrau cyhoeddi hynny’n gynnar y flwyddyn nesaf, ond unwaith eto, mae llawer iawn o waith manwl yn cael ei wneud am gyfnod.