Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 18 Hydref 2017.
Rwy’n deall hynny’n llwyr. Nid oes unrhyw un yn bychanu maint enfawr y prosiect hwn, ond mae’n hanfodol bwysig i ni a Llywodraeth y DU yng nghyd-destun y trafodaethau sy’n mynd rhagddynt ym Mrwsel ar hyn o bryd hefyd, oherwydd, os ydym am gael y fargen orau sydd ar gael gan yr UE, mae angen iddynt wybod ein bod yn hollol barod am ddim bargen. Ac felly, yn fy marn i, bydd po fwyaf y gallwn ei gyhoeddi ymlaen llaw yn ein helpu i sicrhau bargen resymol gan yr UE os ydynt yn synhwyrol yn ei gylch.
Sail sylfaenol y drefn bresennol yw cynllun y taliad sylfaenol, a pholisi UKIP yw parhau ag amrywiad o hwnnw, ond gyda chap o £120,000 ar y taliadau, er mwyn rhoi diwedd ar y gwahaniaethu o blaid ffermwyr a busnesau amaethyddol mwy o faint a rhoi mwy o gefnogaeth i fentrau llai. Credwn hefyd y dylid rhoi codiad o 25 y cant i ffermydd organig. O gofio bod natur amaethyddiaeth yng Nghymru yn wahanol iawn i Loegr—nid oes gennym beithdiroedd helaeth fel Swydd Lincoln ac yn y blaen—ni ddylai fod yn anodd i Lywodraeth Cymru ddod i gasgliadau gweddol debyg. Felly, tybed a all roi unrhyw syniad inni ynglŷn â sail polisi amaethyddol yn y dyfodol, o leiaf.