Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 18 Hydref 2017.
Mae grŵp cynghori a gweithredu Cymru ar faterion morol wedi bod yn ymgymryd â’r gwaith o ddatblygu cynllun morol cenedlaethol i Gymru. Mae yna swyddogaeth statudol sy’n rhaid inni ei chyflawni, a byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth fwrw ymlaen â hyn. Byddwn yn ceisio barn y grŵp hwn ynglŷn â chynllun rheoli’r ardaloedd morol gwarchodedig.