1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 18 Hydref 2017.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu manylion pellach am sut y gall rhanddeiliaid y tu hwnt i awdurdodau rheoli gyfrannu at ddatblygu cynllun gweithredu ar flaenoriaethau rheoli ardaloedd morol gwarchodedig? (OAQ51185)
Mae grŵp cynghori a gweithredu Cymru ar faterion morol wedi bod yn ymgymryd â’r gwaith o ddatblygu cynllun morol cenedlaethol i Gymru. Mae yna swyddogaeth statudol sy’n rhaid inni ei chyflawni, a byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth fwrw ymlaen â hyn. Byddwn yn ceisio barn y grŵp hwn ynglŷn â chynllun rheoli’r ardaloedd morol gwarchodedig.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. Yn ôl ym mis Awst, fel y gŵyr, cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad, o dan yr enw bachog, ‘Y Llanw’n troi?’, a bwysleisiai cymaint y dylem ymfalchïo yn ein hamgylchedd morol ac arfordirol yng Nghymru, a photensial ardaloedd morol gwarchodedig i helpu i gefnogi moroedd iach, pysgodfeydd cynaliadwy a llawer mwy.
Soniai argymhelliad 1 am y brys i ddatblygu strategaeth yr ardaloedd morol gwarchodedig. Soniai argymhelliad 3 am yr angen i Lywodraeth Cymru weithredu mewn ffordd dryloyw ac effeithlon, gan sicrhau bod rhanddeiliaid yn ymgysylltu’n llawn â’r broses o ddatblygu strategaeth yr ardaloedd morol gwarchodedig. Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gadarnhaol i’r argymhellion, fodd bynnag, yn hytrach nag ymrwymo i ddatblygu strategaeth ar gyfer yr ardaloedd morol gwarchodedig, yn ôl argymhelliad y pwyllgor, ymrwymodd yn hytrach i gwblhau cynllun gweithredu blaenoriaethau rheoli ar gyfer yr ardaloedd morol gwarchodedig, a chytuno drwy hynny ar gyfeiriad strategol drwy weithio gyda grŵp llywio rheoli’r ardaloedd morol gwarchodedig. Ond yn anffodus, nid yw rhanddeiliaid morol sy’n gweithio yn y sector preifat na chyrff anllywodraethol yn rhan o grŵp llywio’r ardaloedd morol gwarchodedig, sy’n gyfyngedig i awdurdodau rheoli ardaloedd morol gwarchodedig megis Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol. Felly, a gaf fi ofyn, mewn ffordd adeiladol iawn, i Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar hyn eto—gwn y bydd yn awyddus i ddefnyddio holl arbenigedd y sector morol wrth ddatblygu’r cynllun gweithredu a’r strategaeth forol—a chyda chymorth ei swyddogion, i archwilio ffyrdd o sicrhau ymgysylltiad llawn â’r holl randdeiliaid cyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf?
Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Mae fy adran yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a grŵp llywio rheoli’r ardaloedd morol gwarchodedig i gwblhau’r cynllun gweithredu blaenoriaethau rheoli ar gyfer yr ardaloedd morol gwarchodedig. Ar ôl hynny, wrth gwrs, byddwn yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid morol drwy’r grŵp cynghori a gweithredu ar faterion morol.
Ysgrifennydd y Cabinet, oni ddylid sicrhau er hynny fod yr ymgysylltiad hwnnw’n digwydd cyn i’r cynllun gael ei gwblhau? Mae adnoddau eich adran yn gyfyngedig; rydych yn wynebu gorfod gwneud rhagor o arbedion. Mae heriau eithriadol ynghlwm wrth yr ardaloedd morol gwarchodedig hyn; ni wyddom fawr ddim ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd ar waelod y môr, ac mae casglu gwybodaeth yn ddrud iawn. Pam na wnewch chi gynnwys y rhanddeiliaid yn gynharach yn y broses fel y gallwch ddefnyddio’u hadnoddau a’u harbenigedd i’ch cynorthwyo i ddatblygu’r cynllun hwn?
Pan ddechreuwyd ar y broses o greu cynlluniau morol, aethom ati i gyhoeddi datganiad cyfranogiad y cyhoedd a nodai sut y gallai rhanddeiliaid gyfrannu at y cynllun o’r cychwyn cyntaf, ac yna wrth iddo ddatblygu. Felly, mae gennym yr ymgynghoriad hwnnw a’r cytundeb hwnnw gyda’r rhanddeiliaid; nid yw’n fater o beidio â’u cynnwys—fe wnaethom hynny. Mae gennym hefyd grŵp cyfeirio’r rhanddeiliaid ar gyfer y cynlluniau morol. Mae hwnnw’n cynnwys ystod eang o gyrff anllywodraethol, cynrychiolwyr diwydiant a fforymau arfordirol. Mae’n cynnwys Ystâd y Goron, a Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlwg, yn ogystal â Chanolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu. Maent wedi bod yn cyfrannu drwy gydol y broses. Felly, credaf ei bod yn anghywir dweud na chawsant eu cynnwys; roeddent yno o’r cychwyn cyntaf.