Ardaloedd Morol Gwarchodedig

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:53, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Mae fy adran yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a grŵp llywio rheoli’r ardaloedd morol gwarchodedig i gwblhau’r cynllun gweithredu blaenoriaethau rheoli ar gyfer yr ardaloedd morol gwarchodedig. Ar ôl hynny, wrth gwrs, byddwn yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid morol drwy’r grŵp cynghori a gweithredu ar faterion morol.