Ardaloedd Morol Gwarchodedig

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:54, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Pan ddechreuwyd ar y broses o greu cynlluniau morol, aethom ati i gyhoeddi datganiad cyfranogiad y cyhoedd a nodai sut y gallai rhanddeiliaid gyfrannu at y cynllun o’r cychwyn cyntaf, ac yna wrth iddo ddatblygu. Felly, mae gennym yr ymgynghoriad hwnnw a’r cytundeb hwnnw gyda’r rhanddeiliaid; nid yw’n fater o beidio â’u cynnwys—fe wnaethom hynny. Mae gennym hefyd grŵp cyfeirio’r rhanddeiliaid ar gyfer y cynlluniau morol. Mae hwnnw’n cynnwys ystod eang o gyrff anllywodraethol, cynrychiolwyr diwydiant a fforymau arfordirol. Mae’n cynnwys Ystâd y Goron, a Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlwg, yn ogystal â Chanolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu. Maent wedi bod yn cyfrannu drwy gydol y broses. Felly, credaf ei bod yn anghywir dweud na chawsant eu cynnwys; roeddent yno o’r cychwyn cyntaf.