Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 18 Hydref 2017.
Diolch. Mae rhywogaethau goresgynnol estron yn parhau i gael effaith amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sylweddol yng Nghymru. Rydym yn gweithio i’w lleihau drwy weithredu rheoliad rhywogaethau goresgynnol estron yr UE a thrwy gydweithio gyda’n partneriaid i hybu ymwybyddiaeth, rhannu arferion gorau a data, a gweithredu er mwyn rheoli neu ddileu’r rhywogaethau hyn.