Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 18 Hydref 2017.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. O’r holl rywogaethau estron sydd gennym yn Abertawe, yr un sy’n achosi’r broblem fwyaf inni yw clymog Japan, sy’n oresgynnol iawn, yn anodd iawn ei dileu ac yn arwain at fethu gwerthu tai a difrod i ddraeniau, a gall danseilio sylfeini tai. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â defnydd o’r profion ysglyfaethwyr naturiol yn ogystal â gwell triniaeth gemegol i gael gwared ar y rhywogaeth hynod beryglus a goresgynnol hon?