Rhywogaethau Goresgynnol Estron

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:04, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ganfyddiadau interim. Gwn fod y data’n cael ei ddadansoddi ar hyn o bryd. Felly, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ganfyddiadau interim, nac unrhyw adroddiad bychan y maent wedi’i wneud, ond rwy’n sicr o holi ynglŷn â hynny. Os bydd, rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod. Ond gwyddoch fod y treial wedi archwilio gwahanol gyfuniadau o driniaethau chwynladdol a chamau mecanyddol. Roedd yn dreial trylwyr iawn, a gobeithiaf y gallwn ddod o hyd i’r dull rheoli mwyaf effeithiol.