Rhywogaethau Goresgynnol Estron

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:05, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Ydy, mae clymog Japan yn gur pen go iawn i ddeiliaid tai. Mae gennym hefyd rywogaethau goresgynnol ym myd yr anifeiliaid a all fod yn fygythiad gwirioneddol, megis y ferdysen reibus. Daethpwyd o hyd i’r rhywogaeth hon mewn dyfroedd ger Bae Caerdydd ac yng nghronfa ddŵr Eglwys Nunydd ym Mhort Talbot yn 2010. Nawr, mae’r sector bioddiogelwch wedi bod yn monitro’r sefyllfa ers hynny. Tybed a oes gennych unrhyw newyddion ynglŷn â lefel gyfredol y bygythiad y mae berdys rheibus yn ei achosi.